Anhwylder Affeithiol Deubegwn

llyfrau-beniwaered-swnCes i ddiagnosis o Anhwylder Deubegwn tua 4 mis yn ôl. Ond nid am 4 mis yn unig dwi wedi cael yr anhwylder wrth gwrs. Ar gyfartaledd mae’n cymryd 8 mlynedd i gyrraedd diagnosis cywir yn y D.U. Mae llawer o bobl, gan gynnwys finnau, yn cael diagnosis o iselder yn y lle cyntaf (ac yn cael y meddyginiaeth anghywir fel canlyniad).

Mae fy mhrofiad fy hun yn un o gael cyfnodau o iselder a chyfnodau o hypomania neu ‘mania ysgafn’. Ar y pryd mae’n teimlo fel peth da – anhygoel o dda weithiau! Sai’n teimlo fel dwi’n dost, dwi jyst yn teimlo fel mae lot o egni gyda fi, dwi’n gallu gwneud unrhywbeth, s’dim angen lot o gwsg arnai – dwi jyst moyn gwneud pethau!

Dwi’n siarad yn glouach, symud yn glouach, mae pawb arall yn symud rhy araf ac maen nhw gyd yn fy ffordd. Dwi’n ffaelu canolbwyntio ar unrhywbeth, dechrau pethau ond heb eu gorffen nhw, methu gorffen erthygl dau baragraff oherwydd dydy fy ymennydd ddim yn stopio symud, a dwi yr un peth. Mae llawer o bethau yn cael eu gwneud, jobsys sydd wedi bod ar y rhestr ers sbel!

Ond mae ochr negyddol i’r hypomania hefyd. Mae’r deubegwn yn chwarae triciau ar fy ymennydd a dwi’n gwrthod credu bod rhywbeth yn bod gyda fi, gwrthod gwneud y pethau sydd yn helpu fi. Oherwydd y teimlad o fod yn anorchfygol dwi’n gwneud penderfyniadau twp sydd yn achosi problemau yn y tymor hir. Fel arfer dwi’n gwario lot o arian dwi’n methu gwario (mae 7 carden credyd gyda fi, i gyd yn ‘maxed’ a dwi’n methu cael credyd rhagor – peth da falle!). Hefyd dwi’n meddwl bod perffaith hawl gyda fi gysgu gydag unrhywun, s’dim ots os maen nhw’n briod (neu pan o’n i’n briod). Mae ymddygiad ymosodol yn broblem cyffredinol hefyd pan dwi’n hypomanic oherwydd diffyg amynedd.

Ac wedyn, ar ôl yr holl hwyl a sbri a gwallgofrwydd o’r hypomania, rhywbryd mae’r ‘crash’ yn dod, a dyma’r peth gwaethaf am ddeubegwn yn fy marn i. Mae pawb yn wahanol ond gyda fi mae’r ‘crash’ yn digwydd yn sydyn a dwi’n syth mewn i iselder lle dwi’n methu gwneud hyd yn oed y pethau dwi’n wir yn mwynhau. Mae’n anodd disgrifio’r cyfnodau o iselder, mae’n cliché gweud bod popeth yn teimlo yn ddu, ond mae’n wir. Oherwydd dwi’n methu gwneud pethau dwi’n dechrau casáu fy hunan sydd yn arwain at yfed, sydd yn gwneud fi deimlo yn waeth byth ac yn dechrau hunan-niweidio, sydd yn wneud fi gasau fy hunan rhagor – dych chi’n gallu gweld y ‘cycle’ erbyn hyn.

Mae llawer o gamddealltwriaeth a stigma ymysg pobl ynglyn â anhwylder deubegwn, ac wrth gwrs mae pob person gyda’r anhwylder yn gwahanol. Mae ‘bipolar II’ da fi oherwydd dwi’n cael hypomania nid mania, ond mae pob person gyda ‘bipolar II’ yn wahanol hefyd, gyda’u hanesion a phrofiadau a phersonoliaethau eu hunain. Mae’n bwysig cofio y rhan fwyaf o’r amser dydyn ni ddim yn cael mania/hypomania nag iselder, mae cyfnodau rhwng y ddau lle dyn ni’n digon normal!!

Gair bach am y gwasanaethau Cymraeg i orffen. Dwi’n lwcus ble dwi’n byw, mae pob meddyg a nyrs yn y feddygfa yn medru’r Gymraeg, ond mae’n stori hollol gwahanol gyda’r Tîm Iechyd Meddwl ble does dim byd, yn fy mhrofiad i yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi gweud hynny, dwi wedi cael help arbennig wrthyn nhw gyd.

Os mae unrhywun yn moyn trafod, dwi’n siwr mae’r modd cysylltu trwy wefan meddwl.org

David

Rhannu

Gadael Ymateb