Ffarwelio â blwyddyn arall…

Bob blwyddyn, dwi’n ffendio’r ‘dolig yn gyfnod ddigon heriol, am resymau nad ydyn nhw’n amlwg ond rywust ma’r tensiynau a’r sdres sy’n arwain ato’n llwyddo, os nad ydw i’n ofalus, i dynnu’r mwynhad.

Roeddem yn cydnabod ei fod yn gyfnod o fyfyrio yn ein herthygl diweddar ac mi fydda i’n gwneud lot o hynny’r adeg yma’r flwyddyn.

Pam fod ‘dolig bawb arall i weld cymaint fwy hwyliog na f’un i? Pam mod i’n teimlo mod i methu cael ‘dolig yn iawn, blwyddyn ar ôl blwyddyn? Pam mai m’ond fi sy’n llwyddo i ffraeo efo ‘nheulu a hynny wastad jyst cyn ‘dolig? Pam mod i wastad yn teimlo rywsut mod i’n gwneud ‘dolig pawb jyst ‘chydig yn shit?

Ella mai’r cyfryngau cymdeithasol a’r habit gynyddol o rannu popeth da ‘di o. Dwi’n gwbod fy hun mod i wedi postio llun hapus braf cyn heddiw, mond i betha’ suro’n ofnadwy cwta hanner awr wedyn.  Ond, faswn i ddim yn postio’r surni, felly ma’ pawb arall dal i feddwl mod i’n cael amser grêt dydi? A dyna sy’n bwysig de?

Wedi dweud hynny, ella mai rwbath arall ydi o.  Ella mai’r ffordd ma’ bobl o nghwmpas i isio treulio’r ‘dolig ‘di o a bod hynny’n wahanol i’r hyn hoffwn i.  Ella mai’r sgyrsiau na fedrai jyst ddim cymryd rhan ynddyn nhw sydd, ma’r rhain yn anochel pan mae llwyth o bobl sydd ddim yn arfer yng nghwmni ei gilydd yn dod ynghyd.  Ella mai’r pwysau ar wario ar ein gilydd er mwyn dangos ein cariad materol ‘di o.  Ella, mewn gwirionedd, mai’r preshyr i beidio ffraeo ydi’r union beth sy’n gwneud i ni wneud hynny.  Y rhwystredigaeth dy fod di ddim yn fod i ddeud be’ ti’n deimlo achos, wel, mai’n ddolig dydi?

Mae na bosibilrwydd cry’ wrth gwrs bod o’n ddyfnach na hynny.  Ella mai fy anhapusrwydd i fy hun efo’r hyn ‘dw i wedi ei gyflawni ‘leni di o. Bosib iawn mai blin ydw i, efo’r byd, am rwbath nad oes gen i’r hawl i fod yn flin efo’r byd amdana fo. Nid y byd sydd ar fai, ond mae’n haws meddwl felly weithia’. Ym mis Ionawr 2017, penderfynais bod rhaid i fi ail-gydio yn fy ngwaith ymchwil er mwyn ei gyhoeddi cyn i’r data heneiddio gormod.  Dyma fi rŵan yn oria’ mân bore ‘dolig a ‘dw i ddim nes at y lan.  Ydi hynny’n fai ar rywun arall? Nadi.  Oes na rwystrau wedi bod yn fy ffordd? Nacoes. Felly ai fy mai i yn llwyr ydi hyn?  Ia, a dwi’n teimlo fel mod i wedi methu.  A fedra i ddim gweld ym mha ffordd fydd 2018 yn wahanol, ym mha ffordd fydda i lai prysur, nac ym mha ffordd fydda i’n gallu gwneud mwy o hoel ar y gwaith.

Dyma pam fod cymryd y cyngor yn yr erthygl a mynd ati i geisio nodi un buddugoliaeth am bob mis o’r flwyddyn yn teimlo’n ddoeth erbyn hyn, a finna’ methu cysgu. Dwi’n mynd i ddehongli buddugoliaeth i olygu unrhyw beth sy’n bositif neu’n gadarnhaol i fi’n bersonol.  A dwi’n eich annog chi gyd i wneud rhestr tebyg (does dim rhaid i chi ei rannu’n gyhoeddus wrth reswm!), achos hawdd ydi anghofio’n buddugoliaethau.

Ionawr

Gesh i ddechra ddigon od i’r flwyddyn a deud y gwir, ond er i fi nodi uchod nad ydw i’n teimlo dim nes at y lan, mi wnes i gymryd cam i ‘neud penderfyniad oedd yn un ddigon anodd i’w wneud.  Pan fues i’n cwblhau fy ngwaith ymchwil fel rhan o’m cwrs meistr yn wreiddiol (2013-2015), dois i wyneb nifer fawr iawn o rwystrau a olygodd i’r gwaith gymryd llawer hirach na’r bwriad. Rhowch hynny law yn llaw â pherthynas anhapus iawn (mewn cartref di-gariad a thrist yn Ffestiniog ble mai’r unig gyfle fyddwn i’n ei gael i dynnu fy meddwl oddi ar y gwaith oedd wrth goginio sosij casarol mond i bigo bob darn o chorizo allan o fy mhorsiwn fy hun) ac ma’ gynnoch chi gyfnod anodda’ mywyd i (in hindsight, hynny yw).  Dealladwy felly ydi ei bod hi wedi cymryd mor hir i fi fod yn barod i ailwynebu’r gwaith a oedd yn rhan mawr o anhapusrwydd a chaethiwed y cyfnod.  Ma’ gen i le felly i fod yn falch ohona fi’n hun am gymryd y cam yna o gwbl, hyd yn oed os ydi hi wedi cymryd blwyddyn gron i wneud ‘chydig bach iawn o gynnydd.

Côr Dre; Caernarfon

Ro’n i hefyd yn breswyliwr yng Nghaernarfon ers mis Rhagfyr 2016 ac yn syth ar ôl y flwyddyn newydd, penderfynais ymuno â chôr – rwbath cymdeithasol oeddwn i’n mynd i’w wneud i fi, ac i’m helpu i setlo’n y gymuned a dod i ‘nabod pobl. Dwi’n ffendio ymuno â phetha’ heb gwmni ffrind i ddod efo fi yn anodd ar y gora, heb sôn mod i heb ganu ers blynyddoedd lawer. Ond, dois i ‘nabod pobl a setlo’n dda’n fy nhre’ newydd, ac mae’r diolch am gyfran helaeth o hynny i Gôr Dre (dewch i ymuno yn Ionawr 2018!)

Chwefror

Os oedd Ionawr yn gyfnod od, roedd Chwefror yn fwy ansicr fyth.  O’n i mewn perthynas newydd ers ryw dri mis a doeddwn i methu deud gair drwg amdana fo. Roedd o’n rhoi popeth y bues i’n crefu amdana fo (yn aflwyddiannus) yn fy mherthynas hirdymor cynt; roedd ‘na ymdrech ac roedd ‘na dân yn ei fol o.  Pam felly nad o’n i’n hapus?

Wrth gwrs, all rywun fod yn wych ar bapur heb fod yn iawn i fi.  Ro’n i’n gweld ei fod yn rhoi mwy mewn i’r berthynas na fi a’i fod o ‘di buddsoddi mwy.  Do’n i jyst methu ‘neud o.  Nesh i feddwl i ddechra’ mai effaith y berthynas hirdymor flaenorol a sonnir amdani uchod o’dd hynny ac y byddai’n dod yn haws pan ‘swn i’n stopio pwyso’r botwm self-destruct, ond ymhen hir a hwyr roedd rhaid i fi wynebu mai gwneud esgusion oeddwn i.  Esgusion oedd yn fy ngwneud i lawn cyn waethed a’r person gadwodd fi mewn perthynas anhapus pan nad oedd ei galon o ynddo fo a gwisgo f’hunan werth i lawr fel petai ganddo fo ddarn hegar o bapur tywod.  A rŵan mod i’n sylwi hynny, do’n i ddim am gadw neb mewn perthynas sy’n llai na’r hyn ma’ nhw’n haeddu.  Penderfyniad anodd iawn ydi brifo rywun; anoddach fyth ydi ceisio esbonio’r penderfyniad hwnnw sy’n gwneud dim synnwyr iddyn nhw, ond roedd o’n rwbath roedd rhaid i fi wynebu a’i wneud ym mis Chwefror, er lles fy iechyd meddwl fy hun.

Mawrth

Parhau wnaeth y dryswch a’r dadlau yn y mhen i am be goblyn oedd yn fy nal i’n ôl yn emosiynol ac ro’n i’n ama’n gryf mod i jyst ddim yn abl i garu rywun eto, nid go iawn. Ond, wedi i Mam awgrymu bod gwagle ynof fi ers i mherthynas i efo fy nhad biolegol dorri lawr rhai blynyddoedd yn ôl a bod posibilrwydd bod hynny’n cyfrannu, derbyniais y pwynt, a chydnabod y gwagle hwnnw i fi’n hun.  Do’n i ddim wedi colli allan ar unrhyw beth, mae gen i Dad ers mod i’n ddim o beth.  I fi, fo ydi nhad i – fo fagodd fi ac mae o’n ffrind gora’ i fi.  Ond, dydi hynny ddim yn tynnu ffwrdd oddi ar y ffaith mod i wedi bod yn hogan fach conffiwsd iawn yn methu deall pam nad oedd y nhad biolegol i isio bod yn rhan o mywyd i, a pham bod o’n mynnu mynd o’ma a ngadael i am gyfnodau ar y tro, pam nad oeddwn i’n ddigon iddo fo?  Roedd meddwl deud wrth Dad mod i angen ailgysylltu efo’r llall yn torri nghalon i. Nid oherwydd mod i’n ama’ ei gefnogaeth o ond oherwydd mod i’n ofn iddo fo deimlo fod ei gariad o’n annigonol, sydd methu bod yn bellach o’r gwir.

Ta waeth, mi ddedes, a chawsom sgwrs ddigon emosiynol.  Cysylltais efo’r llall a cytunodd i ngweld i, roedd o wrth ei fodd deud gwir. Bu i ni gyfarfod mewn caffi’n dre, ac yno y buom am dair awr yn palu drwy hanes ac yn codi hen fwganod. Tair awr tryma’ mywyd o bosib, yn datgelu rhai o mhoena’ mwya’ wrth berson dwi prin yn ei ‘nabod. Ro’n i’n exhausted i ddeud y lleia erbyn cyrraedd fy ngwely y noson honno. Wedi deud hynny, ro’n i angen cael deud ac ro’n i angen cael gofyn, ac felly roedd o’n un o’r petha’ gora’ nesh i.

Ebrill

Dwi am eich drysu chi gyd rŵan (dwi’n drysu fy hun hefyd), ond o amgylch y perthnasau dwi eisoes wedi sôn amdanyn nhw, mi o’na ryw lun ar rwbath arall efo rywun arall. Sefyllfa gymhleth, a hynny am ddim rheswm amlwg ond beth bynnag, doedd petha’ ddim yn gweithio, o gwbl. Ond eto, roedden ni’n mynnu dod yn ôl at ein gilydd fatha sa ‘na fagnet hunanddinistriol rhyngom.  Y peth gwaetha’ oedd ein bod ni’n ffrindia ac roedd hyn yn sbwylio hynny.  Bues i’n teimlo am hir mod i fyth am ollwng er mai dyna o’n i angen ei wneud – am ryw reswm doeddwn i jyst methu derbyn y peth.  Roedd y sefyllfa yn fy mrifo heb angen ac roedd o’n flêr – ryw bleser tymor byr o gael treulio ambell noson efo’n gilydd m’ond i wynebu’r bore gonest, oer dro ar ôl tro heb unrhyw foddhad tymor hir.  Roedd o hefyd wrth gwrs yn cyfrannu i’r diffyg gallu symud ‘mlaen gan fod o jyst byth yn teimlo’n orffenedig.

Beth bynnag, nos Sul Pasg o’dd y noson ola’ i ni dreulio efo’n gilydd, ar ôl bod allan yn dre.  Rwbath gwirion na ddyle wedi digwydd ond mi ‘nath. Ro’dd na griw yn y nhŷ fi y noson honno, ac mi o’dd be ddigwyddodd rhwng y ddau ohonom ni yn rwbath odd wedi colli ei holl ystyr bellach. Ac mi o’dd o’n y ngwneud i’n drist, mod i’n rhoi fy hun mewn sefyllfa fel’na. Hunanddinistrio oedd o. Haws mynd at rywun nad oedd yn fy ngadael i mewn ddigon i fi ei frifo fo.  Haws hynny na risgio brifo rywun arall eto.  Ac haws byw efo brifo fy hun.  Ond, y peth gwahanol am y noson ola’ na oedd mod i’n gwbod ym mêr fy esgyrn bod o’r tro ola’.  Doedd na ddim penderfyniad na sgwrs am y peth, ond pan gaeodd y drws yn glep ar ei ôl wrth iddo adael y dydd Llun hwnnw, ro’n i’n gwbod na fyddai hyn yn digwydd eto. Ac am y tro cynta’, o’n i’n ei dderbyn o – roedd o’n benderfyniad yn fy isymwybod i roi’r gora’ i frifo fi’n hun.  Ac mi o’dd y rhyddhad yn anhygoel.

Mai

Gwylio’r machlud o Ben Moel Dihewyd

Ym mis Mai a finna’ mewn lle lot iachach, mi wnes ddau beth o bwys tuag at y gwaith o’n i wedi penderfynu ail-gydio ynddo fo ym mis Ionawr.  Cymerais wythnos o wyliau blynyddol ac mi es i ganolbarth Cymru ar fy mhen fy hun heb fynediad i gyfryngau cymdeithasol na smartffôn am 8 diwrnod i weithio.  Llwyddais i wneud yr holl ymchwil fyddai’n fy mharatoi at ddiweddaru’r gwaith cefndirol.  Bues hefyd yn crwydro rywfaint yno; gwyliais y machlud efo fish a chips ar draeth Aberaeron, cerddais fyny i Ben Moel Dihewyd i wylio’r machlud ryw noson arall, ac mi gerddais Lwybr yr Arfordir o Aberaeron i Gei Newydd.

Er mai cyfle i weithio oedd bwriad y trip, sylwais ar werth cael amser i ti dy hun, a gwerth dysgu fod bod ar dy ben dy hun yn gallu bod yn rwbath cadarnhaol, llesol.  Rhois amser nad o’n i wedi’i roi i fi’n hun ers hir iawn, ac mi ‘nath fyd o les.

Cyflwynais fy ‘ngwaith am y tro cynta’ rioed mewn cynhadledd ym Mhrifysgol De Cymru hefyd.  Gollyngais beint o ddŵr ar fy laptop y noson cynt gan golli fy nghyflwyniad, felly roedd hi’n noson hwyr a sdresffyl o ailwneud y gwaith, a thaith hir a nerfus i Gaerdydd.  Yn ffodus, dois i gwrdd â sawl cysylltiad newydd a defnyddiol, ac ro’n i’n teimlo’n llawer gwell am wneud rwbath tebyg i’r dyfodol.

Mehefin

Rŵan, dwi am eich drysu fwyfyth eto a gwneud i chi feddwl amdana i fel yo-yo, ond dyma fy hoff fis eleni.  Dyma fy hoff fis ers blynyddoedd a deud y gwir.  Dyma’r mis y syrthiais mewn cariad eto.  Cariad go iawn. Ac hynny am y tro cyntaf ers meddwl ei fod yn amhosib yn dilyn tor-perthynas erchyll ddechra’ 2016.  Ro’n i wedi adeiladu wal amhosib i’w dymchwel ers dros flwyddyn a hanner. Ond rywsut, daeth y person fwya’ hyfryd gwrddais i ‘rioed a’i ddymchwel i ddim byd heb ffys na ffwdan, a hynny dros nos bron a bod. Ac mi o’dd o mor hawdd.

Volendam; Amsterdam

Y fuddugoliaeth y mis hwn (a bob mis ers hynny) oedd derbyn y dymchwel, derbyn y cariad, a gadael i nghalon i gymryd y risg. Chwe mis yn ddiweddarach a dwi’n parhau’n falch iawn o’r fuddugoliaeth yma sydd wedi dod a’r fersiwn gora’ ohona i nôl.

O.N mi symudodd fy ffrind gora i mewn efo fi ac mi es hefyd i Amsterdam a cherdded mwy o Lwybr yr Arfordir ym Môn. Hwyl a sbri go iawn.

 

 

 

Gorffennaf

Lot fawr o werthfawrogi nesh i mis Gorffennaf.  Gwerthfawrogi rheiny sy’n fy ngharu i.  Gwerthfawrogi ffrindia’ newydd sbon.  Gwerthfawrogi f’ardal. Gwerthfawrogi cerddoriaeth. Gwerthfawrogi bywyd. A gwerthfawrogi gin da.

Fues i’n Tafwyl, yng Ngŵyl Arall ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau (fy hoff nigwyddiad). Fues i ben Moel Eilio.  Bues o amgylch Llyn Padarn ac i Gastell Dolbadarn. Crwydrais Feddgelert.  Bues yn coginio pei ar gyfer ffrindia’ hen a newydd. Ac mi neshi wir fwynhau’r mis hwn.

Awst

Dydi fy mam ddim wedi cael amser hawdd eleni. Bu’n cael ei thrin fel baw gan y rheiny fu hi’n gweithio iddyn nhw, rwbath oedd wedi cychwyn ymhell cyn dechrau 2017 ond a gyrhaeddodd benllanw eleni. Buodd ffwrdd o’i gwaith dan straen am bedwar mis cyfan gan iddyn nhw wthio hi i’r pwynt o dorri lawr a methu gweithio.  Ddechra’ mis Awst mi aethom ffwrdd am ‘chydig ddyddiau i ganolbarth Cymru ac mi gerddom Lwybr yr Arfordir rhwng Cei Newydd a Llangrannog, a jyst ymlacio.  Mi wnaeth fyd o les, a hynny i’r ddwy ohonom.

Cafodd lythyr, bron y byddwn i’n ei alw’n orchymyn, i fynd am gyfarfod gyda’i bos mis Awst ‘fyd.  Do’n i ddim yn meddwl yn bersonol bod rhaid iddi fynd ond roedd am fynd er mwyn osgoi gwaethygu petha’.  Mynnu mynd hefo hi wnes i, a mynychom gyfarfod afiach efo dynes ffiaidd wnaeth adael y ddwy ohona ni’n crio. Doeddwn i ‘rioed yn y mywyd wedi dod ar draws unigolyn mor emosiynol, manipulative oedd yn siarad efo oedolyn ac aelod o staff mewn ffordd mor israddol.  Doctor i fod, yn gwneud i fy mam oedd yn sâl o’u herwydd nhw deimlo bo’ hi’n gorymateb ac angen tyfu croen tewach.

Erfyniais ar mam i beidio a mynd nôl yno o gwbl ar ôl y cyfarfod hwnnw.  Er mor afiach y profiad, ro’n i mor mor falch mod i wedi mynnu mynd efo hi, ac nad oedd hi’n eistedd yno yn cymryd y fath beth heb gefnogaeth. (Erbyn hyn, mae hi wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn swydd newydd ac wedi gadael yr afiachle, diolch byth).

Dathlu 25; Aberdaron

Bron i mi anghofio – cyrrhaeddais chwarter canrif fy modolaeth mis Awst.  Dwi’n ddiolchgar iawn o gyrraedd y rhif yma a fyddai fyth yn gwneud dim byd ond croesawu penblwyddi. Tydw i’n bersonol methu deall yr agwedd o fod ofn penblwyddi; o fod ddim isio’u gweld nhw. Beth bynnag, roedd ‘na rwbath arbennig iawn am droi’n 25. Y dathliadau oedd fy hoff rai erioed. Erbyn cyrraedd 25, dwi’n teimlo mod i o’r diwedd wedi darganfod fy ngwir ffrindiau, ac wedi dysgu pa unigolion sydd eisiau bod yn rhan o mywyd i – sy’n fy ngharu i, a hynny’n ddiamod.  Cefais ddathliadau oedd yn cynnwys fy nheulu agosa’, cefais noson braf iawn o gampio efo’n ffrindia pennaf yn Aberdaron, ac mi gesh i hefyd noson o ddathlu efo’n hoff berson yn y byd.  Yn gynharach yn y mis, cawsom hefyd hwyl a sbri yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Ynys Môn cyn saethu lawr i Grughywel am fy mhrofiad Green Man cynta’ ‘rioed (profiad class!).  Cymerais ran ar banel trafod ‘y Gymraeg ac iechyd meddwl’ Comisiynydd y Gymraeg yn y ‘steddfod cyn ailgreu’r drafodaeth ar gyfer rhaglen Dan yr Wyneb Radio Cymru a fe ymunais â thim rheoli meddwl.org.

Medi

Castelvecchio; Verona

Caerdydd, Aberystwyth a’r Eidal aeth a mryd ym mis Medi.  Cawsom barti hyfryd llawn cerddoriaeth gwerin a dawnsio gwirion yng Nghlwb Ifor Bach, cefais fy nghyflwyno i Gastell Aber a Rummers, a cefais wylia’ hyfryd efo tri o’m hoff bobl wrth i ni ymweld â Verona a Sirmione.  Dau le gwahanol ond diddorol, lot o ecsplorio a chymryd i mewn, lot o fwyd a gwin hyfryd iawn hefyd. Fy hoff atgof o fod yn Verona, yn rhyfedd iawn, ydi’r pedwar ohona ni’n feddw gaib (ymddengys bo’ nhw ddim yn gwneud hyn yn Verona) mewn Speakeasy a’r staff eisiau gwared arna ni, a’r unig beth oedda ni isio’i neud, tu mewn neu thu allan ar y stryd, oedd mynegi ein cariad at ein gilydd, a chofleidio’n gilydd.  Deud ein bod yn caru’n gilydd ar dop ein lleisiau’n wirion a chwerthin fel plant bach; atgof arbennig iawn.

Hydref

Mis prysur oedd mis Hydref. Falle mai fy mhrif gyflawniad y mis hwn oedd cael fy ngwahodd fel siaradwr gwadd i ddigwyddiad gwobrwyo strategaeth Mwy na Geiriau… Llywodraeth Cymru.  Ro’n i’n siarad am bwysigrwydd cynnig gwasanaethau iechyd Cymraeg yn rhagweithiol gan ganolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl. Ro’n i’n nyrfys ofnadwy, ond dwi’n meddwl a’th hi’n dda, ac mi helpodd i mi deimlo mod i ddim yn colli gafael ar y gwaith eto.

Bues hefyd yn ffilmio eitem ar wefan meddwl.org ar gyfer Heno, ac yn cyfrannu i weithgareddau codi ymwybyddiaeth ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Crwydro tipyn eto, a gorffen y mis yn swp sâl wedi gwneud gormod. Ond ta waeth, o’dd o werth o!

Tachwedd

Llwybr Arfordir Ceredigion

Cerddais 10 a hanner o filltiroedd mwy o Lwybr yr Arfordir i’r de o Aberystwyth.  Roedd hwn yn ddiwrnod o beidio gwneud unrhyw waith, ac yn ddiwrnod o’n i wirioneddol ei angen ar ôl prysurdeb fis Hydref.

Bues hefyd yn brysur yn helpu’n yr ymgais i godi arian at Ŵyl Fwyd Caernarfon 2018 (sydd yn costio £28,000 i’w chynnal, sy’n cael ei threfnu a’i chynnal yn llwyr gan wirfoddolwyr, ac sy’n costio dim i chi fynd mewn iddi gyda llaw…!).

Mynychais gwrs ymwybyddiaeth cyfreithiol yn Llundain, oedd yn gyfle gwych i ddal fyny efo ffrindia’ sy’n byw yno, ond ar wahân i hynny, mis ddigon hamddenol.  Cefais gyfle i ailgydio mewn ymarfer corff a gweld gwahaniaeth mawr yn y ffordd dwi’n teimlo ynddo fi’n hun, yr egni sydd gen i, a chyflwr fy meddwl wrth i mi roi rywfaint o amser i ffocysu arna i, ac nid ar y gwaith sydd gen i i’w wneud.  Y nod rŵan ydi parhau â’r ymarfer corff.

Rhagfyr

Caws Noswyl Nadolig

Mis neis iawn oedd Rhagfyr eleni. Dim siwrne mawr o’r Gogs, sy’n anarferol, ac mi o’n i on the ball efo anrhegion dolig felly dim sdres rhy anferthol (heblaw pan neshi drio gwneud choclet log chydig ddyddia’ cyn dolig a lluchio un cyfan disastrous i’r bin bwyd, sy’n drist iawn).

Helpais i gynnal Ffair Nadolig i godi arian i Ŵyl Fwyd Caernarfon, coginiais fy nghinio dolig cynta’ rioed (efo bach o help fy ffrindia’), mi wnes gacen siocled sicning a’i chartio i Aberystwyth, ac mi fwynheais 5 parti cyn edrych ymlaen am ddolig yn gwneud fawr ddim ond byta, yfed a chwerthin.

Nid am anrhegion fydd ‘dolig i fi. Dwi’n licio rhoi anrheg i rywun os dwi’n meddwl y bydden nhw’n ei hoffi neu y bydd yn golygu rwbath iddyn nhw. Ond dwi ddim o gwbl yn licio’r gystadleuaeth o bwy all wario fwyaf sydd i weld yn drend go iawn erbyn hyn.  Gesh i nifer o anrhegion meddylgar iawn (a dyna dwi’n werthfawrogi) – darn o gelf wedi ei ‘neud i mi i adlewyrchu’n amser ni’n yr Eidal fis Medi, llyfr piano a llyfr Sbaeneg i ddechreuwyr am mod i eisiau dechrau dysgu’r pethau yma’n 2018, ffram ddel a ffyni i adlewyrchu rhai o’m hoff bethau, sef y Tŷ Piws (cartref fy ffrind gora’ a finna) a gin.  Cefais bethau defnyddiol i’r gegin hefyd, ac ma’ unrhyw un sy’n fy ‘nabod yn gwybod y bydda i’n mwynhau fy amser yn y gegin. Beth bynnag, dwi’n rwdlan…. Mae gen i blania’ rhwng ‘dolig a’r flwyddyn newydd gyda’r bwriad o ffitio cymaint o’m hoff bobl a phosib i mewn, a dwi’n sicr mai dyma fydd fy hoff ran o’r ‘dolig eleni.

2018….

Dwi wedi ‘sgwennu tipyn mwy na’r bwriad, ond dyna fo, ma’n iach gwneud weithia ac ma’r broses wedi rhoi persbectif ar rai pethau.  Naddo, wnes i ddim cyflawni’r un peth o’n i wedi’i fwriadu ers Ionawr, ond gesh i ddechra’ ddigon ansicr i’r flwyddyn a llwyddais i gyflawni nifer o betha’ oedd yn effeithio’n wael ar fy iechyd meddwl yn ogystal â sawl peth annisgwyl ym maes fy ngwaith ymchwil.  Does dim pwrpas felly ffocysu ar yr un peth na wnes i gyflawni.  Y peth pwysica’ am 2017 i fi yw bod y flwyddyn yn gorffen ar nodyn lawer iawn gwell na ddechreuodd hi.  Dwi mewn lle lot gwell nac o’n i, ac ar ben hynny wedi darganfod y math fwya’ real a rhwydd o gariad dwi ‘rioed ‘di deimlo.

Os ydach chi rywfaint yn ansicr am sut flwyddyn oedd hi eleni, gwnewch chithau hefyd ymdrech i feddwl am un peth positif am bob mis – mawr neu fach.  Does dim rhaid ‘sgwennu llith fel hyn, mi wneith pwyntiau bwled cryno’r tro. Mae wir yn gymorth i roi trefn ar eich meddyliau am 2017, a gobeithio fel fi, y byddwch chi’n teimlo rywfaint cliriach am yr hyn ‘da chi’n obeithio amdana fo’n 2018.  ‘Dw i dal yn awyddus i gyflawni’r nod o gyhoeddi fy ngwaith ymchwil, ond o leia’ rwan, dwi’m yn teimlo mor euog am y peth a gobeithio felly y byddai’n gallu bod fwy cynhyrchiol a phositif am y gwaith sydd i’w wneud.

Os ydach chi’n dymuno rhannu unrhyw beth efo meddwl.org, plis cysylltwch â ni.

Ond am y tro, blwyddyn newydd dda i chi gyd!

Sophie x