Loes yr Oesoedd – Llinos Dafydd

Loes yr Oesoeddloes yr oesoedd

Cerdd yn dangos gwewyr meddwl unigolyn ar ôl cael ei threisio

Ddoi di ‘da fi, ddoi di?

Does dim dewis.

Yma nawr
a’r niwl yn crogi yn yr awyr
fel y gwnaeth
y noson honno;
yr un smic
yn nunlle.

***

Y noson honno,
pan daenodd
y t’wyllwch
ei glogyn
o gwmpas
fy myd.

“Hei slag, ‘sgen ti smôc?”
Pen i lawr
a ‘nghalon ar garlam.
“Nag oes mêt.”
Chwys.
Brys.

“Dos o ‘na slag!”

Y noson honno
a’r rhegi’n ei lygaid
yn fy chwalu’n yfflon
a’i afael yn fy
mygu,
gorchfygu.

Brwydro brau
a gwaedd ddistaw
gen i –
dim mwy, dim llai;
a’i anadl drwm
yn fy ngadael i’n
fud.

“Dim smic, ok?”
Rhybudd.
Rhewi.

Ergydio didrugaredd,
a’i gledd yn
fy rhwygo.

Dim smic…
Rhag ofn.

***

Yn niwl fy meddyliau
mae’r atgasedd
tuag at fy hun
mor glir.

A’r atgof
yn dangos ei ddannedd,
yn ysgyrnygu arnaf.

Yma nawr,
ddoi di ‘da fi?

Dim smic wrth neb, ok?

Rwyt graith ar fy nghroth.

Nid ti sy’ ar fai
‘mechan i.

Ddoi di ‘da fi dros y dibyn, ddoi di?

Dim smic, ok?

                                                                                                                 Llinos Dafydd

Rhannu