Perffeithiaeth

Perfectionism

Mae perffeithiaeth yn golygu’r duedd i osod safonau sydd mor uchel nad oes modd eu cyrraedd, neu eu bod yn cael eu cyrraedd drwy gryn drafferth.

Mae perffeithwyr yn credu fod unrhyw beth nad yw’n berffaith yn ofnadwy a bod hyd yn oed mân ddiffygion yn drychinebus. Er enghraifft, tra bo’r rhan fwyaf o bobl yn credu ei bod hi’n bwysig gwneud eich gorau glas a pheidio â gwneud camgymeriadau, maen nhw’n cydnabod bod gwneud camgymeriadau o bryd i’w gilydd yn anorfod, ac nad yw un camgymeriad yn golygu eu bod nhw wedi methu yn llwyr. Fodd bynnag, mae pobl sydd â pherffeithiaeth yn meddwl na ddylent fyth wneud camgymeriadau a bod camgymeriad yn golygu eu bod yn fethiant llwyr neu eu bod yn berson gwael am iddynt siomi eraill.

Mae’r meddylfryd hwn yn golygu bod gwneud camgymeriadau yn frawychus iawn iddynt. Yn bur aml, mae’r ymgais i fod yn berffaith yn achosi straen a siomedigaeth oherwydd methu â chyrraedd y safonau rydych chi wedi eu gosod i chi eich hunan. O dipyn i beth, gallech chi ddechrau credu eich bod chi’n ddiffygiol o’ch cymharu â phobl eraill.

Enghreifftiau o feddylfryd perffeithiol

  • Du a gwyn (e.e. “Mae unrhywbeth sy’ ddim yn berffaith yn fethiant”)
  • Trychineb (e.e. “Os gwna’ i gamgymeriad o flaen fy nghydweithwyr, ni fyddwn yn medru ymdopi â’r cywilydd”)
  • Neidio i gasgliadau (e.e. “Bydd y bos yn meddwl ‘mod i’n ddiog os ga’ i gwpwl o ddyddiau bant.”)
  • ‘Dylswn i’ (e.e. “Ddylswn i fyth wneud camgymeriad”)

Enghreifftiau o ymddwyn fel perffeithydd

  • Gohirio yn ddi-ben-draw, ei chael hi’n anodd cwblhau tasgau neu dueddu i roi’r ffidil yn y to yn rhy gynnar
  • Bod yn rhy ofalus a thrylwyr wrth weithio (e.e. treulio 3 awr yn gweithio ar un dasg sy’n cymryd 20 munud i eraill i’w chyflawni)
  • Gwirio pob dim yn ormodol (e.e. treulio 30 munud yn chwilio am wallau sillafu mewn e-bost at eich bos)
  • Ymdrechu’n ddi-baid i wella pethau drwy eu hail-wneud
  • Poeni ynghylch manylion bychain (e.e. pa ffilm i’w rhentu)
  • Llunio rhestrau gorfanwl o waith i’w wneud (e.e. pryd i godi, i lanhau’ch dannedd, i gael cawod ac yn y blaen)
  • Osgoi trio pethau newydd er mwyn peidio â gwneud camgymeriad

Newid meddylfryd perffeithiol

Un o’r dulliau mwyaf effeithiol i oresgyn perffeithiaeth yw mabwysiadu syniadau ymarferol a gosodiadau calonogol yn lle meddyliau perffeithiol a hunanfeirniadol.

Enghreifftiau o osodiadau realistig cadarnhaol

  • “Does neb yn berffaith!”
  • “Alla’ i ddim gwneud mwy na ’ngorau glas!”
  • “Dyw gwneud camgymeriad ddim yn golygu ’mod i’n dwp neu’n fethiant. ’Na i gyd mae e’n ei olygu yw fy mod i fel pawb arall – yn fod dynol. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau!”
  • “Mae’n iawn peidio bod yn hynaws drwy’r amser. Mae pawb yn cael dyddiau gwael o bryd i’w gilydd.”
  • “Mae’n iawn os nad yw rhai pobl yn fy hoffi. Does neb yn y byd y mae pawb yn ei hoffi!”

Safbwynt

Gall dysgu edrych ar sefyllfaoedd o safbwynt pobl eraill eich helpu chi i newid rhai o’r credoau di-fudd hyn.

  • Sut byddai rhywun arall (e.e. ffrind agos) yn edrych ar y sefyllfa?
  • Alla’ i edrych ar hyn o gyfeiriad gwahanol?
  • Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth ffrind sy’n cael syniadau tebyg?

Gwobrwywch eich hunan

Gan fod wynebu’ch ofnau a newid eich hen arferion yn waith caled gwnewch yn siŵr eich bod chi wastad yn achub ar y cyfle i’ch gwobrwyo’ch hunan am yr holl waith rydych chi’n ei wneud. Mae rhoi trît i chi’ch hunan nawr ac yn y man yn rhoi hwb i chi. Mae’r wobr yn gallu golygu mynd mas am bryd o fwyd hyfryd, mynd am dro, mynd mas gyda ffrindiau neu, yn syml, cymryd eich amser i ymlacio neu roi peth o faldod i chi’ch hunan.

 

[Ffynhonnell: anxietybc.com]