‘Nid problem gynnau yw hon…’

Ddydd Sul, yn ystod gwasanaeth yn yr Eglwys yn Sutherland Springs, Texas UDA, lladdwyd 26 unigolyn yn y digwyddiad saethu torfol mwyaf erchyll yn hanes y dalaith gyfoes.

TrumpDdydd Llun pwyntiodd eu harweinydd, yr Arlywydd Donald Trump, ei fys at iechyd meddwl gan honni mai dyma’r ‘broblem’ sy’n gyfrifol am golled bywyd y 26 yma.  Dim problem gynnau oedd wrth wraidd y digwyddiad erchyll, yn ôl Trump, ond problem iechyd meddwl.

Wrth reswm, mae’n anghywir.  Ac o be allwn ni ei ddarganfod, does dim tystiolaeth i gefnogi’r haeriad bod llofruddion sy’n lladd mewn torfeydd fel hyn yn fwy tebygol o fod yn byw â phroblemau iechyd meddwl nag unrhyw un arall.  Yn hytrach, yn ôl Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol yr Unol Daliaethau dydi pobl sy’n byw â salwch meddwl ddim mwy tebygol o ymddwyn yn dreisgar na’r boblogaeth ehangach, a dim ond 3% i 5% o achosion trais yn yr UDA sy’n gallu cael eu cysylltu â salwch meddwl.

Gêm ydi hon gan Trump, wrth gwrs; ffordd hawdd o ddefnyddio anwybodaeth y cyhoedd i feio’r mwyaf bregus mewn cymdeithas, a gwneud iddo fo’i hun ymddangos fel ei fod yn gwneud rywbeth i daclo trais drwy ynnau, tra’n parhau’n ddall i’r broblem go iawn.  Yn y gorffennol, mae o wedi beio mewnfudwyr, ac y tro yma mae’n beio problemau iechyd meddwl.  Mae’r math yma o syniadaeth bellach wedi treiddio i isymwybod y cyhoedd; un o’r pethau prin mae nifer o Americanwyr yn ei gytuno arno mewn perthynas â thrais o’r fath ydi ei fod yn ymwneud â salwch meddwl. Mae gan Trump felly rwydd hynt i barhau i wneud hyn heb oblygiadau. Ni feiddia neb ei herio.

“Blaming mental health is an old, tired NRA (National Rifle Association) tactic meant to paralyze the country and make it seem like gun violence is akin to floods, tornadoes, hurricanes and other natural disasters over which we don’t have any control”
(Peter Ambler, cyfarwyddwr corfforaethol Giffords: Courage to Fight Gun Violence.)

Mae’n chwarae gêm ffiaidd, hynod niweidiol.  Ond mae cyffredinoli a gwneud y fath ddatganiadau unfrydol hefyd yn feddygol wallus.  Does dim angen dweud ei bod yn bosiblrwydd y gall unigolion sy’n ymwneud â digwyddiadau o’r fath fod â phrofiadau o salwch meddwl, yn yr un modd ag y gallent fod ag unrhyw brofiadau eraill fyddai wedi dylanwadu ar eu cymhelliant i weithredu y ffordd yma.  Gallem dreulio drwy’r dydd yn dyfalu; gallem feio cefndiroedd; credoau; egwyddorion; addysg; magwraeth.  Does wybod beth sy’n cymell person i ymddwyn fel hyn, yn enwedig pan nad yw’r unigolyn hwnnw gyda ni mwyach i alluogi’r awdurdodau i fynd at wraidd y peth.

Mae awgrymu bod cysylltiad mor syml rhwng salwch meddwl a thrais yn cyfleu neges gwbl anghywir ynghylch anawsterau seicolegol ac yn stigmateiddio miliynau o bobl sy’n byw â chyflyrau iechyd meddwl.

Assigning blanket blame to mental illness can have long-term consequences…it further alienates people with mental health issues and makes them feel like their experience isn’t understood.”
(
Dr. Michelle Riba, cyfarwyddwr cysylltiol ym Mhrifysgol Michigan.)

Goblygiadau anochel sydd i eiriau anystyriol ac hunanol Trump; sef arwain at bobl yn peidio â cheisio cymorth a’u rhwystro rhag y driniaeth briodol.

Y gwir ydi fod y llofrudd yn yr achos hwn wedi’i wahardd rhag cael trwydded i gario gwn yn Nhexas.  Ond, diolch i gyfreithiau llac yr UDA; cyfreithiau y bu i Trump wrthod eu diwygio pan gafodd gyfle yn ddiweddar i wneud hynny, fe lwyddodd i brynu’r gynnau a ddefnyddiodd yn y digwyddiad.

Ond wrth gwrs, “nid problem gynnau yw hon”.

Sophie, Manon a Hedd; criw meddwl.org


Darllen ymhellach: Time to Change: Violence & Mental Health (Saesneg yn unig) 

Rhannu

Gadael Ymateb