Sut beth yw bod yn un o wrandawyr y Samariaid? : Wales Online

Mewn tŷ teras cyffredin yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen y mae cangen Caerdydd a’r Cyffiniau y Samariaid. Y tu mewn, mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i gynnig clust i bobl yn ystod eu cyfnodau tywyllaf.

Bydd rhywun yn galw’r Samariaid bob chwe eiliad, ac atebodd gwirfoddolwyr 5.7 miliwn o alwadau yn y DU yn 2016 i gefnogi pobl a oedd yn cael trafferth ymdopi.

Ers newid i linell ffôn am ddim fis Medi 2015, mae’r Samariaid wedi cael llif o alwadau – cynnydd o 300,000 yn 2016 yn unig. Yng Nghaerdydd, mae’r ffôn yn canu o’r eiliad y caiff ei droi ymlaen.

Gall galwadau amrywio o fod yn rhai munudau i fod mor hir â dwy neu dair awr, felly mae’n anodd dweud sawl galwad y bydd y gwrandawyr yn eu hateb. Yn ogystal â’r galwadau hyn, mae hefyd llif o e-byst a negeseuon testun yn dod i mewn.

Mewn rhai ffyrdd, mae bywydau gwrandawyr y Samariaid yn ddirgelwch. Mae gan bob un ohonynt enw arall i’w ddefnyddio o fewn pedair wal eu cangen. Efallai na fydd rhai ohonynt yn dweud wrth eu teuluoedd am eu gwaith hyd yn oed, er mwyn pellhau eu bywydau personol oddi wrth eu gwaith gwirfoddol fel ffordd o ymdopi.

Dywedodd Ryan, sy’n 34 mlwydd oed o Gaerdydd, sy’n gwirfoddoli am dair awr yn oriau mân y bore unwaith yr wythnos:

“Dw’i wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol gyda gorbryder ac iselder. Ffoniais i’r Samariaid unwaith. Nid yw’r GIG o hyd yn cynnig cwnsela, ac yn y foment honno o banig a theimlo wedi gorlethu, rydych chi angen siarad gyda rhywun. Dydych chi ddim eisiau poeni teulu a ffrindiau, ond gyda’r Samariaid gallwch chi siarad gyda rhywun sy’n hollol empathetic.

Am resymau cyfrinachedd, ni all Ryan drafod y mathau o alwadau y mae wedi eu derbyn, ond yn hytrach, mae’n disgrifio ymatebion pobl pan fyddant yn siarad am eu teimladau:

“Pan fydd rhywun yn cysylltu â chi dros y ffôn, ar ôl iddyn nhw siarad am bopeth sydd angen iddyn nhw rannu, gallwch chi eu clywed yn anadlu’n haws ac yn ymlacio ychydig. Efallai bydd pobl yn credu y gall pethau ond waethygu, ond wrth iddynt siarad â rhywun, maen nhw’n sylweddoli y gallan nhw gario ‘mlaen a gwneud penderfyniadau gwahanol.”

Cyn dod yn un o wrandawyr y Samariaid mae’n rhaid i’r gwirfoddolwyr ymgymryd ag wyth sesiwn hyfforddiant o dair awr. Wedi hynny, cânt eu paru â mentor a fydd yno yn ystod pob shifft am hyd at chwe mis i gynnig cefnogaeth iddynt.

Mae rhai sgiliau yn datblygu’n gyflym ac mae eraill yn anos i’w dysgu. Un o’r anawsterau mwyaf yw derbyn eich rôl fel Samariad, ac mai eu rôl yw bod yno i wrando – nid i roi cyngor.

Dywedodd Alex, un o’r gwirfoddolwyr, sy’n 61 mlwydd oed:

“Ein nod yw gofyn cwestiynau defnyddiol sy’n helpu’r person hwnnw i fynegi eu teimladau, yn hytrach na’u cynghori. Mae rhai yn cael trafferth gyda hynny – mae rhai pobl sy’n ffonio yn credu eu bod eisiau cyngor, ond mewn gwirionedd nid yw hynny’n wir. Y nod yw eu helpu i ddod o hyd i’w datrysiadau eu hunain.”

Ar ddiwedd pob shifft bydd y gwirfoddolwyr yn trafod eu galwadau ac unrhyw feddyliau neu bryderon gyda’i gilydd. Yna byddant yn galw goruchwyliwr shifft neu reolwr er mwyn adrodd yn ôl ymhellach. Cynhelir sesiynau cefnogi a hyfforddi i sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn ymdopi drwy’r flwyddyn.

Llinell Gymraeg y Samariaid: 0808 164 0123 (7pm – 11pm, 7 diwrnod yr wythnos) (llinell Saesneg – 116 123 (24/7)

Darllen rhagor : Wales Online (Saesneg)