Bywyd dau begwn : BBC Cymru Fyw

_96682900_gwen1

Mae mawr angen siarad yn fwy am anhwylder deubegwn (‘bipolar disorder’), yn ôl un fenyw o Gwmbrân.

“Mae’n syndod i fi fy mod i’n dal i fod yn fyw, gyda rhai o’r eithafion isel dwi wedi eu profi,” meddai Gwen Goddard, 30.

Yr unig wahaniaeth rhwng iselder ac anhwylder deubegwn, meddai Gwen, yw’r eithafion uchel. Ac weithiau, mae mynd i’r uchelfannau hynny’n gallu bod yn beryglus.

“Ges i ddim diagnosis iawn nes i mi fod yn tua 25 mlwydd oed ar ôl sawl blwyddyn o ddioddef cylchredau’r salwch.”

“Does dim digon yn cael ei wneud o gwbl, ond yn anffodus bai ar lywodraeth a chyllid ydy hynny,” meddai Gwen.

Pam fod yna dal cymaint o stigma o gwmpas? Pam fod yna dal gymaint o ddiffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol? Pam fod rhaid i unigolion aros am fisoedd er mwyn cael gweld rhywun ynglŷn â’u problemau, ac wedyn weithiau misoedd arall ar ben hynny cyn gweld unrhyw un am driniaeth?

“Heb sôn am y nifer sydd yn ei gweld hi’n anodd trafod eu problemau trwy gyfrwng y Saesneg. Os ydyn nhw eisiau gweld rhywun trwy gyfrwng y Gymraeg, ry’n ni’n sôn am fwy o amser aros eto,” meddai. “Mae hyn yn ystod adeg lle nad ydy llawer o’r bobl sy’n dioddef yn teimlo’n ddigon cryf i frwydro, i fynnu gwasanaethau’n gyflymach neu yn y Gymraeg. Dyw’r sefyllfa ddim yn ddigon da.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Gadael Ymateb