Brwydro anorecsia

_98280998_charlotte1Mae bywyd yn frwydr i un fyfyrwraig o Gaerfyrddin, a hynny ers iddi ddioddef o afiechyd bwyta am flynyddoedd.

Er bod Charlotte May bellach ar y llwybr at wellhad, a’i phwysau hi mewn man diogel, dyw bywyd ddim yn fêl i gyd.

“Dwi’n teimlo fel person drwg, ac nad ydw i’n haeddu dim byd mewn bywyd,” meddai’r ferch 26 oed, sydd wedi bod yn sâl ers oedd hi’n 11 oed.

“Dwi’n brwydro bob dydd, ond dydy pobl ddim yn ystyried hynna o gwbl.

“Mae wedi bod yn ofnadwy, ac ar un pwynt, ro’n i’n meddwl y byddai fy nghalon yn stopio, ond ro’n i mor sâl, ro’n i tu hwnt i boeni am y peth.”

“Dyw pethau ddim yn hawdd o bell ffordd – does dim pwynt i mi wadu. Mae dyddiau anodd iawn, gyda fy mhen i’n dweud wrtha i i gymryd camau yn ôl bob dydd. Ond mae’r risg o golli popeth – bywyd prifysgol, bywyd yn gyffredinol, fy nghar a phob math o bethau. Dyw e jyst ddim werth e.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Gadael Ymateb