Cerdded Rhaff

Yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy am hanner dydd, dydd Mercher y 27ain o Fedi 2017, dechreuodd Her 100 Cerdd 2017 wrth i bedwar bardd ddod ynghyd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.  Beirdd 2017 yw Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd.

Gyda penblwydd cyntaf y wefan ar ei ffordd ynghyd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10fed Hydref), addas oedd gofyn i’r beirdd gyfansoddi cerdd i ddathlu llwyddiant Meddwl.org yn ein hymgais i lenwi’r bwlch mewn gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Iestyn Tyne yw’r bardd a gydiodd yn yr her o fynd ati i gyfansoddi ar y testun heriol hwn, ac yn bendant fe lwyddodd.  Cyfansoddodd gerdd hyfryd ac hynod berthnasol, sy’n taro deuddeg ag ystod eang o’n cynulleidfa a’n cefnogwyr.

Hoffem ddiolch o galon i Llên Cymru am greu’r cyfle, ac yn benodol i Iestyn am ymgymryd â’r dasg hon mewn modd mor sensitif.

Mwynhewch, a rhannwch!