Unigrwydd

unigrwydd1Nid yw teimlo’n unig ynddo’i hun yn broblem iechyd meddwl, ond mae’r ddau yn gysylltiedig.

Mae byw gyda salwch meddwl yn cynyddu eich siawns o deimlo’n unig, ac mae teimlo’n unig yn gallu gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

Nid yw bod ar eich pen eich hun yr un fath â bod yn unig. Nid oes dim o’i le â bod ar eich pen eich hun os ydych yn gyfforddus â hynny.

Ond, os ydych yn darllen y dudalen hon, mae’n debyg bod rhywbeth yn peri gofid i chi.

Fel arfer, mae pobl yn disgrifio eu bod yn teimlo’n unig am un o ddau reswm:

  • nid ydynt yn gweld neb nac yn siarad â neb yn aml iawn
  • er bod pobl o’u hamgylch, maent yn teimlo nad oes neb yn eu deall nac yn gofalu amdanynt

Er bod angen i’r rhan fwyaf o bobl gael rhyw fath o gyswllt cymdeithasol er mwyn cynnal iechyd meddwl da, mae gan bawb anghenion cymdeithasol gwahanol. Efallai eich bod yn rhywun sy’n fodlon ar gael ychydig o ffrindiau agos, neu efallai bod angen i chi gael grŵp mawr o bobl yn gydnabod i chi er mwyn teimlo’n fodlon.

Mae’n bwysig cofio bod unigrwydd ac unigedd yn broblem iechyd cyhoeddus a all effeithio ar bobl o bob oed. Nid yw Unigrwydd ac Arwahanrwydd yn faterion ymylol; maen nhw wedi’u profi i niweidio iechyd, maen nhw’n sail ar gyfer eithrio cymdeithasol ac maen nhw’n broblem sylweddol a dybryd yng Nghymru sy’n croesi pob ffin o ddosbarth cymdeithasol, hil, hunaniaeth o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws ariannol a daearyddiaeth.

(Darllen rhagor : Mind)


Mwy o wybodaeth


Newyddion


Dolenni eraill

Rhannu