Rhestr aros iechyd meddwl wedi dyblu mewn chwe blynedd : BBC Cymru Fyw

Llun BBC Cymru Fyw
Llun BBC Cymru Fyw

Mae nifer y bobl sy’n aros am driniaeth iechyd meddwl yng Nghymru wedi dyblu dros y chwe blynedd ddiwethaf, yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru.

Dangosodd ffigyrau ar gyfer mis Mai 2017 fod 1,820 o gleifion yn aros am driniaeth, o’i gymharu â 916 ym mis Mai 2011.

Mae nifer sylweddol o’r cleifion hyn yn gorfod aros hyd at chwe mis, ac mae rhai yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond talu am driniaeth breifat.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r gwasanaeth iechyd.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Fideo perthnasol ar Newyddion9

Rhannu

Cyfrol yn torri tabŵ galar a chynnig cymorth ymdopi yn Gymraeg : Y Lolfa

galar-a-fi-esyllt-maelorMae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri’r tabŵ sydd o amgylch galar gan gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r rhai sydd yn ymdopi ag ef.

Mae Galar a Fi yn cynnwys ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar – a’r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â’u galar. Mae’r ymatebion i galar yn y gyfrol yn amrywio o gerddi, llythyron, dyddiadur, ysgrifau i straeon byrion.

Golygwyd y gyfrol gan Esyllt Maelor, sydd wedi profi galar ei hun.

Daw’r llyfr ar ôl cyhoeddi Gyrru drwy Storom (y Lolfa) yn 2015 – cyfrol oedd yn cyflwyno profiadau dirdynnol o fyw trwy salwch meddwl.

“Yn ei rhagair i’r gyfrol honno nododd Alaw Griffiths iddi fethu dod o hyd i wefannau a llyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg. A does dim byd bron ar gael yn y Gymraeg am alar chwaith,” eglurodd Esyllt. “Os yw darllen yn un ffordd o gwnsela, roeddwn am ddarllen yn Gymraeg. Cwestiynau cwnsela oedden nhw, a minnau eisiau atebion, eisiau gwybod.”

“Fel gyda salwch meddwl, mae tabŵ yn perthyn i alar hefyd. Ymgais i roi llais i’r di-lais yw’r gyfrol hon,” meddai Esyllt.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Nigel Owens: Bulimia a fi : BBC Cymru Fyw

nigelowens2
Nigel Owens – Llun o wefan BBC Cymru Fyw

Mae e’n un o ddyfarnwyr gorau’r byd ond mae Nigel Owens wedi rhoi ei iechyd mewn perygl i gyrraedd uchelfannau’r gamp.

Mae’r gŵr o Fynydd Cerrig wedi cydnabod bod ganddo broblemau gyda bulimia pan oedd yn ddyn ifanc. Ond am y tro cyntaf mae’n datgelu bod ei frwydr gyda’r anhwylder bwyta yn parhau wrth iddo geisio cyrraedd y safonau ffitrwydd angenrheidiol fel dyfarnwr rygbi proffesiynol.

Wrth weithio ar raglen Nigel Owens: Bulimia and Me, BBC One Wales (23 Gorffennaf, 20:30) daeth i ddeall faint y mae pobl eraill yn ei ddiodde’ a sylweddoli bod angen help meddygol arno ef ei hun.

Darllenwch mwy:

 

Rhannu

Lle oeddwn i – Sobri : BBC Cymru Fyw

Llun BBC Cymru Fyw

Yr wythnos hon bydd Wynford Ellis Owen yn ymddeol fel Prif Weithredwr Ystafell Fyw Caerdydd.

Cafodd y ganolfan ei sefydlu i helpu pobl sydd yn gaeth, boed hynny i alcohol, cyffuriau, rhyw neu gamblo. Mae hi hefyd yn rhoi cymorth i bobl sydd ag anhwylderau bwyta.

Roedd Wynford yn ddewis addas ar gyfer arwain y gwaith gan fod ganddo brofiad personol o gaethiwed. Er ei fod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y sgrin fach, ac yn arwr i genedlaethau o blant Cymru fel y cymeriad chwedlonol hwnnw Syr Wynff ap Concord y Bos, o dan y doniolwch roedd gan Wynford gyfrinach fawr. Roedd yn alcoholig.

“Ro’n i wedi bod yn yfed ers tua 26 mlynedd, a sawl mil oedd wedi dweud hynny wrtha i? Ond dim ond dau berson naeth erioed fy herio i am fy yfed. Gyda dibyniaeth, does ‘na neb byth yn siarad am y peth, er bod pawb yn gw’bod bod o yna, fel rhyw eliffant pinc ynghanol y ‘stafell, ond mae pawb yn cerdded ar blisgyn o’i gwmpas o yn smalio bod o ddim yn bod. Felly erbyn y pwynt hynny yn fy mywyd ro’n i yn barod i wneud rhywbeth amdano – dioddefaint o bosib yw’r grym mwyaf creadigol sy’n bodoli ym myd natur.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Gwybodaeth am effaith alcohol ar iechyd meddwl : meddwl.org

Ystafell Fyw

Rhannu

Lansio ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl i blant : Golwg360

cam-drin1

Mae ymchwiliad fydd yn canolbwyntio ar y cymorth iechyd emosiynol a meddyliol sydd ar gael i blant a phobol ifanc yng Nghymru, wedi cael ei lansio gan un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw.

Nod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw ystyried a ydy’r rhaglen i newid gwasanaethau’r maes yma ar y trywydd iawn, ac i sicrhau gweithredu’r “newid sylweddol sydd ei angen.”

Daw lansiad yr ymchwiliad yn sgil cyhoeddi adroddiad gan y pwyllgor tair blynedd yn ôl, oedd wedi mynegi pryderon am wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bwriad i adolygu a moderneiddio’r sustem yn fuan wedi cyhoeddiad yr adroddiad.

Darllen rhagor : Golwg360

Rhannu

Yr uwch reolwr sy’n mynd i’r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle : Canna Consulting

19702165_1333657503420403_5494990382194209078_nPan syrthiodd Andrew Tamplin yn sâl i iechyd meddwl ddwy flynedd yn ôl, doedd ganddo ddim syniad y byddai’n dechrau menter busnes newydd – Canna Consulting.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad recriwtio, arweinyddiaeth, a rheoli pobl yn y sector preifat a chyhoeddus roedd Andrew yn rhagori yn ei yrfa. Pan ddioddefodd o salwch meddwl daeth fel sioc iddo fo a’i deulu. Teimlodd fel petai ei gorff a’i feddwl wedi ei fethu, a thaniodd hwn gwestiwn pwysig – ydy cyflogwyr yn y DU yn gwneud digon i fuddsoddi yn iechyd meddyliol a lles eu staff?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae lles meddyliol yn y gweithle wedi dod yn fwy amlwg ym mhenawdau papur newydd ar draws y DU. Gall iechyd a lles meddyliol yn y gweithle fod yn gysylltiedig â nifer o ffactorau megis ymgysylltiad â gwaith, cynhyrchiant, a boddhad eich swydd a bywyd. Mae cyflogwyr yn chwarae rôl allweddol yn dylanwadu ar les eu staff, ac felly hefyd yn gallu chwarae rôl allweddol mewn atal afiechyd. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad Iechyd Meddwl yn y Gweithle 2016 gan Fusnes yn y Gymuned mae 3 o bob 4 o weithwyr wedi dioddef symptomau o iechyd meddwl gwael, ac mae ysgolheigion yn esbonio bod hyn o achos diffyg arweinyddiaeth. Heddiw mae miloedd o bobl yn dioddef o iechyd meddwl ar ben eu hunain, ac maent yn teimlo na allant rannu eu cyflwr neu salwch gyda chydweithwyr a rheolwyr yn y gwaith. Felly mae angen i gyflogwyr ddechrau meddwl yn ddynamig am iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu