Canlyniadau arholiadau: mwy yn chwilio am gymorth oherwydd pryder : Golwg360

unnamedMae nifer cynyddol o bobol ifanc yn chwilio am gymorth er mwyn ymdopi â phwysau canlyniadau arholiadau, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl ffigyrau’r elusen NSPCC, fe ddarparodd eu gwasanaeth Childline dros 1,000 o sesiynau cwnsela yn ystod 2016/2017 i bobol oedd yn pryderu am arholiadau.

Mae hyn yn gynnydd o 21% o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.

Cafodd 110 o’r sesiynau cwnsela yma eu cynnal gan wirfoddolwyr y llinell gymorth mewn dwy ganolfan yng Nghymru – yng Nghaerdydd a Phrestatyn.

Daw’r ystadegau ddiwrnod cyn y bydd pobol ifanc yn eu harddegau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn eu canlyniadau lefel A.

Mae’n debyg yr oedd nifer o bobol ifanc bu’n siarad â chwnsleriaid, yn teimlo’n isel a’n bryderus, ac yn poeni am ymateb eu rhieni i’w canlyniadau.

Darllen rhagor : Golwg360

Rhannu

£½m i wella’r gofal i bobol ifanc ag anhwylderau bwyta : Golwg360

doctor1Fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £500,000 ychwanegol y flwyddyn i wella’r gofal y mae pobol ifanc ag anhwylderau bwyta yn ei dderbyn wrth droi’n 18 oed.

Nod yr arian yw cynorthwyo pobol ifanc a’u teuluoedd wrth drosglwyddo o ofal Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Oedolion ar gyfer trin anhwylderau bwyta.

Bydd y cyllid yn ei gwneud yn bosib recriwtio staff arbenigol newydd, yn cefnogi gwell hyfforddiant i staff presennol, ac yn cynorthwyo sefydlu amryw o raglenni therapi.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £1.25m y flwyddyn mewn gwasanaethau trin anhwylderau bwyta ehangach i blant ac oedolion ledled Cymru.

Darllen rhagor : Golwg360

Rhannu

Meddwl am y stori : BBC Cymru Fyw

_97243078_captureMae’n bwnc sy’n cael sylw’n rheolaidd ar y newyddion, ond un cwestiwn sydd ddim yn cael ei ofyn yn aml yw sut mae’r newyddiadurwyr eu hunain yn delio gydag iechyd meddwl?

Un sydd wedi mynd ati i ganfod atebion i’r cwestiwn yma ydy Jacob Dafydd Ellis o Fro Morgannwg, aelod o dîm Newyddion 9.

Ers 2016 mae o wedi bod yn sgwrsio gyda newyddiadurwyr yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol fel rhan o brosiect On Your Mind Cymru.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar

Pitman
Rory Pitman. Llun o wefan walesonline.co.uk

Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar. Un diwrnod rydych chi gyda’r gorau, ond gall ddod i ben yn fuan.

Yn anffodus, pan ddaw i rygbi, mae anafiadau yn rhan annatod o’r gêm ac os yw’r chwaraewr sy’n cymryd eich lle yn chwarae’n dda, gallwch fynd yn angof yn fuan iawn. Mae cyn chwaraewr y Sgarlets, Rory Pitman, yn gwybod yn union sut mae hynny’n teimlo.

Fe wnaeth enw iddo’i hun yn ystod tymor 2014/15, gyda pherfformiadau trawiadol. Aeth ymlaen i chwarae 26 o weithiau i’r Scarlets y tymor hwnnw ac roedd pethau’n edrych yn addawol iawn cyn iddo gael ei anafu.

Y tymor nesaf, prin wnaeth ef chwarae i’r Scarlets gan i anafiadau i gyhyrau yn ei fraich a’i frest ei gadw oddi ar y cae am gyfnod hir cyn iddo gael ei ryddhau gan y rhanbarth. Fe wnaeth y newyddion daro’r chwaraewr 27-mlwydd-oed yn galetach nag y gallai fod wedi dychmygu.

“Roedd popeth yn mynd yn wych gyda’r Scarlets. Roeddwn yn ennill gwobrau am seren y gêm ac yn chwarae’r gemau mwyaf – ond fe ddigwyddodd un peth ar ôl y llall ar ôl hynny. Fe es i weld seicolegydd ac yn lwcus roedd gen i hefyd rwydwaith cymorth gwych gyda ffrindiau a theulu.

“Nid oedd yn hawdd cyfaddef fy mod yn cael trafferth ymdopi, ond mae’n bwysig bod pobl yn deall nad yw chwaraewyr rygbi yn ‘nwyddau’ i’r clwb eu defnyddio a’u gwaredu fel y dymunant.

“Nid yw materion iechyd meddwl yn hawdd eu trafod mewn chwaraeon corfforol fel rygbi. Mae angen iddo ddod yn fwy derbyniol i bobl siarad amdano ac y mwyaf o bobl sy’n deall hyn, bydd y sefyllfa yn well i bawb.”

Darllen mwy

Rhannu

Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl

Meri Huws

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn – gyda’r ganran cyn ised â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd.

Yn ystod trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod hyn yn ‘annerbyniol, eilradd a pheryglus’ a rhannwyd profiadau personol dioddefwyr oedd wedi gorfod trafod eu pryderon a’u meddyliau tywyllaf yn eu hail iaith.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Gan nad yw iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei weld, mae’n rhaid siarad i gyfleu a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a mwyaf personol – ac mae gwneud hynny mewn ail iaith yn boen a straen ychwanegol nad yw claf bregus ei angen.”

Sbardun y drafodaeth yn yr Eisteddfod oedd gwefan Meddwl.org, gafodd ei lansio yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg cymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Mae’r wefan yn dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg i un lle ac yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn cynnig cyfle i bobl rannu eu profiadau o salwch meddwl yn y Gymraeg.

Darllen rhagor : Comisiynydd y Gymraeg

Rhannu

Samariaid yn ceisio cynnig gwasanaeth Cymraeg : Golwg360

Samaritans_Cymru_RGB_logoMae’r Samariaid yng Nghymru yn gobeithio gallu cynnig gwasanaeth 24 trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond, mae un arweinydd lleol wedi pwysleisio y bydd angen rhagor o wirfoddolwyr sy’n medru’r iaith er mwyn i’r elusen llinell argyfwng allu cyflawni hynny.

Y gobaith yw cyfuno adnoddau mewn gwahanol fannau ar hyd a lled y wlad, meddai Elwyn Jones, un o arweinwyr y Samariaid ym Mangor.

“Mae’r Samariaid yn ganolog yn gwneud ymchwil rŵan i ffeindio faint o siaradwyr Cymraeg sydd mewn canolfannau eraill er mwyn cynnig gwasanaeth llawn.”

“Mae o’n hollol bwysig gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg nid yn unig o ran egwyddor ond er mwyn cynnig gwasanaeth go iawn,” meddai Elwyn Jones. “Dydi pobol mewn argyfwng yn aml ddim yn gallu mynegi eu hunain yn iawn yn Saesneg.

Darllen rhagor : Golwg360

Llinell ffôn Gymraeg y Samariaid : 0808 164 0123 (7pm i 11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

Llinell ffôn Saesneg y Samariaid : 116 123 (24/7)

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu

Mwy o blismyn yn absennol o’r gwaith oherwydd straen : BBC Cymru Fyw

[llun BBC]
[llun BBC]

Mae nifer y plismyn sy’n absennol o’r gwaith oherwydd straen wedi mwy na dyblu yn y pedair blynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos fod 86 swyddog ar draws Cymru yn rhy sâl i weithio yn ystod mis Mehefin eleni, a hynny oherwydd materion yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Ym Mehefin 2013, 37 oedd y nifer – gan olygu bod cynnydd o dros 130% wedi bod ers y cyfnod hwnnw.

Ond roedd y nifer eleni wedi gostwng o’i gymharu â Mehefin 2016, pan oedd 97 o swyddogion yn absennol o’r gwaith.

Dywedodd is-gadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod, bod y gostyngiad yn nifer y staff ers 2009 wedi cynyddu’r pwysau ar swyddogion.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Galar a Fi – Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru? : Y Lolfa

Daw’r darn isod o gyfrol newydd Y Lolfa, ‘Galar a Fi‘, sy’n trafod profiadau ingol o fyw gyda galar.

Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru?

galar-a-fi-esyllt-maelorMae geiriau fel hyn yn gallu brifo:

Maen nhw yn well eu lle.

Rhaid i ti symud mlaen.

Dwi’n deall sut wyt ti’n teimlo.

Paid â bod yn ddigalon.

Rhaid i ti ddechrau mynd allan eto.

Mae angen i ti ailafael mewn pethau.

Byddi di’n well ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Bydd pethau’n gwella gydag amser.

Mae yna reswm tu ôl i bopeth.

Mi gei gau’r drws rŵan, yn cei.

Bydd ddewr.

Paid â throi pob dim yn dy feddwl.

Mi ddoi di drosto.

Ti yw ‘dyn’ y tŷ rŵan. Rhaid i ti fod yn gefn i…

Parhau i ddarllen

Rhannu