Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig!

Jack-PleasantsDwi’n ddig, dim fel y dug Caeredin wrth gwrs ond mae o yn ddyn digon dig ei hunan. Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma.

Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?

Yn America mae o yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn y deyrnas ranedig gawn ni wythnos, ag yn ôl y sôn fydd S4C yn dangos rhaglenni am y pwnc. Ni fyddaf yn gweld yr un oherwydd dwi’n beio’r peiriant propaganda yma am achosi gymaint o anfodlonrwydd a dicter yn y byd. Y gobaith nol yn 1982 oedd fasa mwy o Gymraeg ar y cyfryngau yn annog mwy o bobol i siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ond yn anffodus efelychu’r diwylliant Eingl Americanaidd arwynebol mae o wedi gwneud.

Oherwydd dwi ddim yn defnyddio meddyginiaeth i fy nghyflwr iechyd meddwl bellach mae fy nheulu annwyl wedi bod yn dyst i ‘angry outbursts’. Dwi fel matchen chi! Chwythu fyny ar y pethau mwyaf dibwys ond dwi yn gweld o’n llesol. Dim iddyn nhw wrth gwrs, ond mae o allan o fy system yn syth yn lle mwydro fy mhen fel yn yr hen ddyddiau ac wedyn cymryd cyffuriau i dawelu beth sydd yn hollol naturiol. Dicter! Anger!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg

manon-elinWrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau, meddyliau ac emosiynau. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir.

Wrth drafod â’r gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, wnaeth neb ofyn na chynnig i mi siarad â rhywun yn Gymraeg, a doeddwn i ddim mewn sefyllfa i ofyn. Roeddwn i’n teimlo y dylwn i fod yn falch ac yn ddiolchgar o gael unrhyw gymorth. Gan fod rhestrau aros am therapïau siarad mor hir beth bynnag, ro’n i’n poeni y byddai’n rhaid i mi aros hyd yn oed hirach i weld cwnselydd yn Gymraeg petawn i’n gofyn.

Roedd ceisio mynegi teimladau personol mewn iaith dw’i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn ei siarad yn brofiad hynod o rwystredig. Mae’n ddigon anodd yn Gymraeg! Rwy’n meddwl yn Gymraeg, mae’r salwch yn digwydd yn Gymraeg, ac mae trio cyfleu hynny yn Saesneg yn teimlo’n ddieithr ac anghyfarwydd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gor-bryder

arddunMa’ pawb efo anxiety. Pob un ohonom ni. Mae o’n hollol normal i boeni am betha’ fel iechyd chi’ch hun a’ch teulu, arholiada’, symud tŷ, ca’l swydd, materion ariannol ac ati. Ond, be sydd ddim gan bawb ydi anxiety disorder.

Y gwahaniaeth ydi bod anxiety disorder yn amharu ar fywyd pob dydd ac yn rhywbeth fwy hir-dymor. Mae’n cael effaith ddwys arnoch chi, ac yn atal chi rhag byw bywyd cyffredin. Mae o’n lais bach sydd wastad yn cefn eich meddwl sy’n ama’ popeth, ac sy’n eich rhwystro chi rhag ymlacio. Un pwynt dwi’n meddwl sy’ wir angan ca’l ei bwysleisio – nid panicio yn unig ydi anxiety fel ma’ lot fawr o bobl yn ei feddwl. Yn sicr, tydi o ddim mor syml â hynny, ac mae o’n cael effaith llawar fwy anweledig ar unigolyn. Yn bersonol:

Ma’ anxiety yn g’neud fi’n hwyr i lefydd achos yr ofn o gyrraedd yn y lle cyntaf.

Ma’ anxiety yn rhwystro fi rhag atab rhai negeseuon rhag ofn imi ddeud y peth anghywir, neu achos bod y cyflwr wedi fy mlino i ormod i wneud. (Dwi byth yn *anwybyddu* negeseuon yn fwriadol FYI os gai jyst ‘neud nodyn o hynny’n fan’ma!)

Ma’ anxiety yn creu scenarios sydd heb ddigwydd yn fy mhen ac yn creu problem allan ohonyn nhw.

Ma’ anxiety yn atal fi rhag cymryd rhai cynnigion dwi’n ei ga’l rhag ofn y byddai ddim digon da.

Ma’ anxiety yn gallu fy mharlysu.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Fy Ngelyn Pennaf

RXisnWAFPan dwi’n ista lawr ac yn meddwl am ba bwnc i flogio yn ei gylch bob mis, ma’ ‘mhen i wastad yn mynd yn wag. Ond, ma’ nhw’n deud wrthach chi sgwennu am yr hyn ‘dach chi’n ei w’bod, a dyna’r cyngor dwi ‘di gymryd dros y misoedd diwethaf – e.e pan o’dd fy hunan-hyder i lawr, neshi sgwennu ‘Hunan-hyder’ (Teitl creadigol ta be), neu pan oni’n flin efo’r ffordd o’dd pobl o ‘nghwmpas i’n trafod salwch meddwl, neshi sgwennu ‘Ieithwedd iechyd meddwl’ ayyb.

Felly, y tro hwn, dwi’n mynd i flogio am rywbeth dwi erioed ‘di siarad amdano’n gyhoeddus o’r blaen. ‘Dio’m am fod yn hawdd, ond fedrai ddim ei osgoi o, gan ei fod o’n chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd i – a holl bwynt creu’r blog o’dd i sgwennu’n onast.

Ers oni’n 14 oed, dwi wedi diodda’ o iselder.

Ma’ byw efo iselder fel cael cwmwl du uwch eich pen drwy’r amser, lle mae ‘na wastad risg o law trwm – bob diwrnod.

Er bod y salwch yn cael mwy o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, dwi dal i deimlo fel bod pobl yn cam-ddeall be yn union ydi o, neu’n gwrthod ei gymryd o ddifrif. Ma’ hynny’n beth rhwystredig ofnadwy. Fy ngobaith i drwy sgwennu’r cofnod hwn ydi gwahaniaethu rhwng y ffeithiau a’r camsyniadau sy’n gysylltiedig â’r salwch. (Felly, fatha gêm o ‘Gwir neu Gau’, a pwy sy ddim yn mwynhau rheiny?)

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ymdrech

llyfrau-beniwaered-swnPan oeddwn i tua deuddeg fe wnes i fynd yn unswydd at Mam a dweud wrthi nad oeddwn i’n hoffi darllen ragor ac na fyddwn i’n darllen mwy. Ro’n i â’n nhrwyn mewn llyfr y bore wedyn.

Pan oeddwn i’n adolygu at gyfer arholiadau TGAU ces i brynu llyfr ar yr amod na fyddwn i’n ei ddarllen e nes ar ôl yr arholiadau. Cymaint o rebel a phleser deimles i yn darllen y llyfr ‘ar y slei’ yn lle adolygu.

Heblaw am ambell gyfnod prysur alla i ddim cofio peidio darllen am fwy na dau neu dri dwrnod. Doeddwn i byth yn dda iawn am ddarllen un llyfr ar y tro chwaith. Fel rheol bydda i’n mynnu gorffen y mwya’ diflas o lyfrau – y cyffro o benderfynu ar y nesaf a dechrau arno yn fy nghadw i ddarllen.

Ond ers rhai misoedd dyw’r syniad o ddarllen ddim yn apelio o gwbl, a’r syniad o ddarllen yn ymdrech. Er i fi agor ambell lyfr, allaf i ddim yn fy myw darllen mwy na phennod neu ddau ar y tro, a hynny yn ysbeidiol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Anhwylder Affeithiol Deubegwn

llyfrau-beniwaered-swnCes i ddiagnosis o Anhwylder Deubegwn tua 4 mis yn ôl. Ond nid am 4 mis yn unig dwi wedi cael yr anhwylder wrth gwrs. Ar gyfartaledd mae’n cymryd 8 mlynedd i gyrraedd diagnosis cywir yn y D.U. Mae llawer o bobl, gan gynnwys finnau, yn cael diagnosis o iselder yn y lle cyntaf (ac yn cael y meddyginiaeth anghywir fel canlyniad).

Mae fy mhrofiad fy hun yn un o gael cyfnodau o iselder a chyfnodau o hypomania neu ‘mania ysgafn’. Ar y pryd mae’n teimlo fel peth da – anhygoel o dda weithiau! Sai’n teimlo fel dwi’n dost, dwi jyst yn teimlo fel mae lot o egni gyda fi, dwi’n gallu gwneud unrhywbeth, s’dim angen lot o gwsg arnai – dwi jyst moyn gwneud pethau!

Dwi’n siarad yn glouach, symud yn glouach, mae pawb arall yn symud rhy araf ac maen nhw gyd yn fy ffordd. Dwi’n ffaelu canolbwyntio ar unrhywbeth, dechrau pethau ond heb eu gorffen nhw, methu gorffen erthygl dau baragraff oherwydd dydy fy ymennydd ddim yn stopio symud, a dwi yr un peth. Mae llawer o bethau yn cael eu gwneud, jobsys sydd wedi bod ar y rhestr ers sbel!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gwrthiselyddion

Ymwadiad: Mae gwrthiselyddion yn driniaeth gyffredin ar gyfer afiechydon iechyd meddwl, ac mae’n bwysig iawn trafod hyn gyda’r meddyg ac i beidio â stopio cymryd tabledi eich hunain.

seroxatAr y cyfan, mae’r mwyafrif o’r rhai sy’n defnyddio gwrthiselyddion yn teimlo’u bod yn llesol i’w iechyd meddwl. Fodd bynnag, dylai pawb fod yn ymwybodol o sgil effeithiau posib y meddyginiaethau hyn. Nid ymgais i ddychryn ydi hyn, ond yn hytrach codi ymwybyddiaeth fel y gall unrhyw un deimlo’n hyderus o’u defnyddio.

Dyma ran o’r hyn ddigwyddodd i fab i mi wedi i’w feddyg teulu ei roi ar SSRI o’r enw Seroxat.

Pan yn tynnu at derfyn ei amser yn y coleg, fe ddechreuodd ddiodde o iselder gyda gor-bryder oedd yn amharu ar ei allu i fwyta, cysgu, canolbwyntio ac yn y blaen. Ar ei ymweliad cyntaf cafodd ei roi ar dabledi cryf heb unrhyw sylwadau o beth allai ddigwydd. Ymhen tridiau, roedd ei feddwl yn barhaus ar derfynnu ei fywyd. Fe lyncodd nifer dda o’i dabledi a chael ei hun yn yr ysbyty lle y cafodd air gyda staff o’r Uned Seiciatreg. Dywedodd y rheini y bydden nhw ar gael iddo unrhyw adeg – dydd neu nos – os y byddai’n teimlo’n debyg eto.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ieithwedd iechyd meddwl

qmc2n-p5Ma’r mater canlynol yn rywbeth sy’ ‘di bod ar fy meddwl i ers dipyn o amsar, ac yn rywbeth sy’n fy ngneud i’n fwy siomedig & blin y mwya’ dwi’n meddwl am y peth. 

Hyd yn oed yn 2016, mae salwch meddwl yn parhau i gael eu defnyddio fel ansoddeiriau, ac yn cael eu dweud yn ddiofal gan nifer o unigolion o fewn ein cymdeithas. Er bod y pwnc (diolch byth) yn cael mwy o gyhoeddusrwydd nag erioed o’r blaen, mae ‘na dal gymaint o waith angen ei wneud er mwyn addysgu eraill am sut i ddefnyddio’r termau mewn ffordd fwy sensitif a chywir.

Tydi o wir ddim yn anodd i’w ddallt:

Nid nerfusrwydd ydi anxiety.

Nid teimlo’n drist ydi iselder.

Nid cael braw ydi panic attack.

Nid isho pob dim yn daclus ac yn drefnus ydi OCD.

Nid un mood swing achlysurol ydi bipolar.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Fibromyalgia a Gorbryder

siriolFi’n dioddef o’r cyflwr fibromyalgia. Mae hwn yn gyflwr sy’n achosi i’r ymennydd anfon signals o boen at rannau o’r corff – coesau a breichiau fwyaf i fi – pan does dim anaf corfforol yna. Mae hefyd yn golygu nad ydw i’n cysgu’n dda, blinder cyson a chyfnodau hir heb egni. Ond y peth gorau nes i glywed dros yr haf (a doedd neb wedi dweud cynt) yw ei fod yn dod i ben! Efallai bydd yn cymryd blynyddoedd ond mae yn dod i ben!

Rhai o brif symptomau neu effeithiau fibromyalgia ydy iselder a gorbryder. Mae’n gwneud synnwyr mewn ffordd, pan chi mewn poen bron pob eiliad o’r dydd mae’n anodd gwneud unrhyw beth ac mae’n haws aros yn y tŷ. Wrth aros fwy a fwy yn y tŷ mae’n mynd yn anoddach i weld pobol a chi felly’n colli cysylltiad gyda ffrindiau ac mae hynny’n arwain yn ôl at yr iselder.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Iselder

dianetteMyfyriwr yn y brifysgol oeddwn i ar y pryd a roeddwn newydd luchio’r ffôn yn erbyn wal fy llofft wedi ffrae fawr arall efo’r cariad.  Roedd o ar ei ffordd i’r dafarn efo’i ffrindiau a minnau am dreulio noson arall yn cuddio yn y tŷ dan orchudd fy ngwely. Roeddwn i’n gythreulig fod o am wario noson arall yn mwynhau ei hun tra mod innau’n jest, wel, methu. Ar hynny dyma i mi sylwi nad oedd pethau’n iawn ac nad oeddwn i wedi bod yn iawn ers tro byd.

Daeth y gwireddiad yn araf bach fy mod i’n torri calon neu’n gwbwl ddideimlad yn barhaol, fy mod i wedi colli pwysau mawr am nad oeddwn i efo unrhyw awydd bwyd, fy mod i wedi cychwyn colli cysylltiad efo’m ffrindiau agosaf, fy mod i’n colli trac ar amser, weithiau am ddyddiau ar gyhyd. Doedd gen i ddim diddordeb yn y pethau hynny oedd ar un adeg wedi cymryd fy mryd. Roedd ‘na baced o sigarennau ar y ddesg a marciau llosg ar y gobennydd ond doeddwn i ddim yn cofio prynu’r paced na’u ysmygu nhw. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn ysmygu.

Parhau i ddarllen

Rhannu