Profiad hunan-niweidio: ‘Cwbl rydym eisiau yw diflannu’ : BBC Cymru Fyw

Mae Angharad May yn 28 oed, ac wedi bod yn anafu ei hun ers yn chwech oed. Gallwch gwrando arni’n siarad am ei phrofiadau ar Radio Cymru yma.

Mae’r heddlu yng Nghymru yn galw am well addysg iechyd meddwl mewn ysgolion ar ôl cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae Samariaid Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi gweld mwy o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a hunan-niweidio.

Rhannu

Sut beth yw bod yn un o wrandawyr y Samariaid?

Llun: WalesOnline

Mewn tŷ teras cyffredin yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen y mae cangen Caerdydd a’r Cyffiniau y Samariaid. Y tu mewn, mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i gynnig clust i bobl yn ystod eu cyfnodau tywyllaf.

Bydd rhywun yn galw’r Samariaid bob chwe eiliad, ac atebodd gwirfoddolwyr 5.7 miliwn o alwadau yn y DU yn 2016 i gefnogi pobl a oedd yn cael trafferth ymdopi.

Ers newid i linell ffôn am ddim fis Medi 2015, mae’r Samariaid wedi cael llif o alwadau – cynnydd o 300,000 yn 2016 yn unig. Yng Nghaerdydd, mae’r ffôn yn canu o’r eiliad y caiff ei droi ymlaen.

Gall galwadau amrywio o fod yn rhai munudau i fod mor hir â dwy neu dair awr, felly mae’n anodd dweud sawl galwad y bydd y gwrandawyr yn eu hateb. Yn ogystal â’r galwadau hyn, mae hefyd llif o e-byst a negeseuon testun yn dod i mewn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Salwch Meddwl: Eich hawliau yn y gweithle

Pan fyddwn ni’n dioddef â salwch meddwl, mae tasgau bywyd bob dydd yn gallu bod yn anodd, felly mae ceisio gweithio ar ben hynny’n gallu bod yn heriol. Gall salwch meddwl ymyrryd â’n gallu i weithio – i rai ohonom gall hynny olygu nad ydym yn gallu gweithio o gwbl, i eraill gall olygu bod angen addasiadau penodol yn y gweithle arnom.

Bydd gan gyflogwyr gwahanol lefelau gwahanol o ddealltwriaeth am salwch meddwl, felly mae’n beth da i wybod beth yw ein hawliau.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Hunan-ofal

Mae hunan-ofal yn ddull sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.

Mae Jayne Hardy, sefydlwr The Blurt Foundation, yn dadlau mai dyma’r ffordd ataliol orau o frwydro yn erbyn gorflino, straen a salwch, yn ein bywydau prysur heddiw. Ar ôl gweithio drwy’r dydd, astudio, neu ofalu am ein plant, mae’n iawn i deimlo bod angen egwyl arnoch. Gyda’r holl ddyletswyddau hyn, mae’n hawdd anghofio bod angen gofalu am ein hunain hefyd.

Mae nifer ohonom yn teimlo’n euog wrth dreulio amser arnom ni’n hunain, naill ai drwy wneud rhywbeth rydym yn ei fwynhau neu wrth ymlacio, ond mae hyn yn hanfodol er mwyn rheoli symptomau iechyd meddwl, yn ogystal â gwarchod ein lles yn gyffredinol.

Mae yna gysyniad niweidiol sy’n bodoli bod hunan-ofal yn rhywbeth diangen a bod blaenoriaethu ein hunain yn hunanol. Ond mewn gwirionedd, mae’r weithred o benodi amser i ofalu am eich hun yn eich galluogi i ddianc y cylch cythreulig o deimlo’n rhwystredig, ac yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch lles meddyliol. Wrth i ni dynnu at derfyn 2017 felly, pam na wnewch chi ymuno â ni a blaenoriaethu hunan-ofal fel adduned blwyddyn newydd? Gofynnwyd i ddarllenwyr meddwl.org i rannu eu hawgrymiadau hunan-ofal â ni, ac felly dyma nhw isod fel ysbrydoliaeth i chi.

Hawys Haf Roberts

Mae angen cofio bod yn garedig wrthoch chi eich hun, ac weithie mae angen dweud bod ‘digon da yn ddigon da’. I fi mae bod yn garedig wrthyf i fy hun yn golygu neud amser i ymlacio, rhoi fy hun yn gynta ambell waith, ac anadlu’n ddwfn os oes pwl o banig yn digwydd. Mae glasied o win a llyfr da yn help hefyd!’

Parhau i ddarllen

Rhannu

20 cofnod mwyaf poblogaidd 2017

Dyma restr o’r 20 cofnod mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd ar meddwl.org yn ystod 2017.

 

1. ‘Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig’ – David Williams (10 Mai)

“Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma. Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?”


2. ‘Ymdopi dros gyfnod y Nadolig’ (7 Rhagfyr)

“Gall y Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawn llawenydd; cyfle i weld teulu a ffrindiau, rhannu anrhegion a chael hwyl. Ond, gall hefyd fod yn gyfnod heriol o’r flwyddyn, yn enwedig i rai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Llynedd, cyhoeddodd Mind Cymru waith ymchwil a ddangosodd fod pwysau ariannol, ymrwymiadau teuluol, unigrwydd, prysurdeb a’r pwysau i fod yn hapus yn gwneud i filoedd o bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn methu ymdopi dros gyfnod y Nadolig.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

OCD – Sut alla’i helpu?

25519999_10155868438595011_503808446_nOs oes rhywun sy’n agos i chi wedi cael diagnosis o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), gall fod yn anodd gwybod sut i’w cefnogi. Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd deall eu profiadau, neu mae’n bosib y teimlwch fod eu hobsesiynau a’u hysfeydd gorfodol yn ymyrryd ar fywyd bob-dydd. Ond gall eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth chi wneud gwahaniaeth enfawr, ac mae ’na bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

Byddwch yn agored am OCD

Fe all y bydd eich anwylyn yn ei chael hi’n anodd siarad am eu hobsesiynau a’u hysfeydd gorfodol. Efallai y byddan nhw wedi’u cadw’n gyfrinach ers amser maith, ac y byddan nhw’n gofidio’n fawr am eich ymateb.

Gall cydnabod hyn a’u hannog i siarad am eu profiad mewn ffordd sy’n teimlo’n gysurus iddyn nhw helpu.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mynd i weld y Meddyg Teulu am broblem iechyd meddwl

GPOs ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich Meddyg Teulu.

Pryd dylwn i fynd i weld fy Meddyg Teulu?

Gellwch fynd i weld eich Meddyg Teulu unrhyw bryd rydych chi’n teimlo bod arnoch chi angen cymorth gydag unrhyw beth. Felly, os ydych yn teimlo’n isel eich ysbryd, o dan straen, yn methu ymdopi neu hyd yn oed yn clywed neu’n gweld pethau nad ydynt yna, peidiwch ag ofni trefnu apwyntiad.

Parhau i ddarllen

Rhannu

PTSD – Sut alla’i helpu?

25530226_10155868429300011_803410429_nGall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

Gwrandewch arnynt

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu, gallwch helpu drwy:

  • rhoi amser iddynt siarad pan maen nhw’n barod – mae’n bwysig peidio â rhoi pwysau arnynt
  • caniatáu iddynt fod yn ofidus ynglŷn â beth sydd wedi digwydd
  • peidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut maen nhw’n teimlo
  • peidio â diystyru eu profiadau drwy ddweud “gallasai fod yn waeth” neu holi pam na wnaethant ddweud neu wneud rhywbeth yn wahanol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Yr iselder sy’n codi ei ben bob gaeaf : BBC Cymru Fyw

_99179169_john_skym2
John Skym

Mae hi’n well gan rai ohonom ni dywydd cynnes yr haf nac oerfel y gaeaf. Ond i tua 30% o boblogaeth y DU mae’r newid tywydd yn gallu dylanwadu ar emosiynau a iechyd meddwl hefyd.

Mae 8% o’r rhain yn dioddef o Anhwylder Affeithiol Tymhorol (Seasonal Affective Disorder – SAD), sef math o iselder sydd ond yn taro dioddefwyr yn ystod misoedd y gaeaf, ond sydd yn gallu cael effaith negyddol iawn ar fywyd bob dydd.

Un sydd yn dioddef bob gaeaf ers blynyddoedd yw John Skym o Landdarog yn Sir Gaefyrddin:

“Pan mae hi’n ddiflas tu fas, fi’n teimlo’n ddiflas yn fy hunan. A phan mae’n dechrau tywyllu yn y gaeaf, tua 3.30 rhai dyddiau, fi jest mo’yn mynd i gysgu, fi mo’yn mynd i hybernatio! A fi ffili gwneud dim byd ambyti’r peth. Heddi, ma’ hi’n ‘itha tywyll gyda ni gan fod yna niwl, a fi’n teimlo’n ddiflas ofnadwy, a gweud y gwir.”


Rhannu

Iselder – sut alla’i helpu?

helpu iselder(1)Gall cefnogaeth ffrindiau a theulu fod yn hynod o bwysig a gwerthfawr i rywun sy’n gwella o iselder. Dyma rai awgrymiadau ar sut gallwch chi helpu.

Eu cefnogi i gael cymorth

Ni allwch orfodi rhywun i gael cymorth os nad oes arnynt ei eisiau, felly mae’n bwysig atgoffa eich anwylyd fod cymorth ar gael, a’i fod yn iawn i ofyn amdano. Gallwch hefyd:

  • Gynnig eu helpu i drefnu apwyntiad gyda’r meddyg
  • Cynnig cefnogaeth pan fyddan nhw’n mynychu apwyntiadau
  • Eu helpu i ymchwilio i fathau gwahanol o gefnogaeth, megis gwasanaethau cymdeithasol neu grwpiau cymorth

Bod yn agored am iselder

Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd siarad yn agored am sut maen nhw’n teimlo. Ceisiwch fod yn agored am iselder ac emosiynau anodd, er mwyn i’ch ffrind neu aelod o’r teulu wybod ei fod yn iawn i siarad am yr hyn maen nhw’n ei brofi.

Parhau i ddarllen

Rhannu