Anhwylder Dysthymic

Anhwylder-DysthymicMae dysthymia yn fath ysgafnach, ond eto mwy parhaol, o iselder.

Nid oes llawer o lawenydd, fel arfer, neu ddim llawenydd o gwbl i bobl gyda dysthymia. Mewn gwirionedd mae pethau yn eithaf tywyll iddyn nhw’r rhan fwyaf o’r amser. Os oes dysthymia gyda chi efallai na fyddwch yn gallu cofio adeg pan roeddech yn teimlo’n hapus, llawn cyffro, neu wedi’ch ysbrydoli. Gall ymddangos fel pe baech wedi bod yn isel eich ysbryd trwy gydol eich bywyd.

Mae’n bosib nad yw’n hawdd i chi fwynhau pethau a chael hwyl. Yn hytrach, byddwch yn tueddu at fod yn ddigychwyn a thynnu yn ôl, byddwch yn poeni yn aml a byddwch yn beirniadu eich hunan fel methiant. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n euog, yn bigog, yn araf, a chael anhawster cael cwsg rheolaidd.

Rhoddir y diagnosis pan fydd person wedi bod mewn hwyliau isel di-dor am o leiaf ddwy flynedd. Gall pobl gyda dysthymia ymddangos yn weddol isel eu hysbryd fel arfer cymaint felly nes ei fod yn ymddangos i fod yn rhan annatod o’r eu personoliaeth. Pan mae pobl yn chwilio am driniaeth ar gyfer dysthymia o’r diwedd nid yw’n anghyffredin i ddysgu bod y cyflwr hwn wedi bod gyda nhw ers nifer o flynyddoedd.

Oherwydd bod dysthymia yn gallu datblygu yn gynnar ym mywydau pobl, nid yw’n anghyffredin i’r rhai sydd â’r cyflwr hwn gredu ei bod yn arferol iddynt deimlo’n ddigalon bob amser. Maent yn aml yn sylweddoli bod ansawdd eu hwyliau yn rhywbeth allan o’r cyffredin. Mae’r salwch hwn yn aml yn mynd heb i neb sylwi arno ac felly, na chaiff ei drin.


Diagnosis o Anhwylder Dysthymic

Crynodeb o’r Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders – Pedwerydd Argraffiad, testun diwygiedig:

A. Person sydd wedi bod yn isel ei ysbryd ar gyfer y rhan fwyaf o’r amser bron bob dydd am o leiaf ddwy flynedd. Ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn hwyliau pigog, y ffrâm amser yw o leiaf un flwyddyn.

B. Person sydd wedi profi o leiaf dau o’r symptomau canlynol tra’u bod yn isel eu hysbryd:
1. Naill ai gorfwyta neu ddiffyg archwaeth.
2. Cysgu gormod neu gael anhawster cysgu.
3. Blinder, diffyg egni.
4. Diffyg hunan-barch.
5. Anhawster canolbwyntio neu wneud penderfyniadau.
6. Teimlo’n anobeithiol.

C. Person sydd heb gael cyfnod rhydd o symptomau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd (un flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc).

D. Ni fu episod mawr melancolaidd yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd o amser (un flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc).

E. Person sydd heb gael episod manig, cymysg neu hypomanig.

F. Nid yw’r symptomau’n ymddangos dim ond gyda phresenoldeb anhwylder cronig arall.

G. Nid oes cyflwr meddygol arall neu ddefnydd sylweddau (h.y., alcohol, cyffuriau, meddyginiaeth, tocsinau) sydd wedi achosi symptomau.

H. Mae symptomau‘r person yn achosi llawer o ofid neu anhawster gartref, yn y gwaith neu feysydd pwysig eraill.

Gwybodaeth o allaboutdepression.com


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu

Agoraffobia

AgoraffobiaYn aml caiff ei ddisgrifio, yn anghywir, fel ‘ofn llefydd agored’, ond mae agoraffobia mewn gwirionedd yn anhwylder gorbryder llawer mwy cymhleth.

Beth yw agoraffobia?

Agoraffobia yw ofn bod mewn sefyllfa wael na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho. Fel arfer mae gan bobl sydd ag agoraffobia lefydd y maent yn teimlo’n ‘ddiogel’ (e.e. eu hystafell wely, neu eu cartref) a llefydd maent yn teimlo’n ‘anniogel’ (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, sinemâu a thorfeydd).


Beth sy’n achosi agoraffobia?

Yn aml caiff agoraffobia ei achosi gan byliau o banig (neu’r ofn o gael pwl o banig), sy’n arwain at symptomau brawychus o orbryder pan fydd dioddefwyr yn mynd i lefydd ‘anniogel.’ Mae pobl sydd ag agoraffobia yn aml yn osgoi sefyllfaoedd sy’n gwneud iddynt deimlo’n bryderus. Mewn achosion eithafol, gall hyn waethygu i’r fath raddau nad yw dioddefwyr byth yn gadael eu cartrefi.


Sut ydw i’n gwybod bod gen i agoraffobia?

Efallai eich bod yn dioddef o agoraffobia os ydych yn osgoi’r sefyllfaoedd canlynol oherwydd ofn:

  • Bod mewn torfeydd
  • Mynd tu allan i’ch cartref
  • Bod yn gaeth mewn naill ai llefydd cyfyng fel twneli, neu lefydd eang agored fel caeau mawr

Y ffordd orau i ddarganfod ydych chi’n dioddef ydy i ymweld â’ch meddyg teulu. Fodd bynnag, os ydy gadael y tŷ yn anodd i chi, efallai nad yw hyn yn bosib. Os ydy hyn yn wir, ffoniwch eich meddygfa leol a gofyn am apwyntiad dros y ffôn.


Sut mae gwella o agoraffobia?

Cydnabod bod angen help arnoch yw’r cam pwysicaf, wedyn trafod gyda’ch meddyg. Efallai y byddant yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddelio â phyliau o banig, cynnig cwnsela hunangymorth ar-lein, rhagnodi cwrs o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), a/neu ragnodi meddyginiaeth.


A fydd gen i agoraffobia am byth?

Os ydych chi wedi cael agoraffobia yn difetha eich bywyd, mae’n naturiol i boeni y bydd yn dychwelyd. Ond bydd bod yn ymwybodol o’ch sbardunau (‘triggers’) a’r help sydd ar gael i chi o gymorth i’w gadw dan reolaeth.

Gwybodaeth o themix.org


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu

Orthorecsia

OrthorecsiaNid yw Orthorecsia’n anhwylder sydd wedi’i chydnabod yn feddygol, ond mae dal yn broblem y mae nifer o bobl yn brwydro â hi.

Beth yw Orthorecsia?

Mae Orthorecsia’n cael ei ddiffinio fel obsesiwn â bwyta’n iach. Y cyfieithiad llythrennol Groegaidd yw ‘bwyta’n gywir’.

Caiff Orthorecsia’n amlach ei ystyried fel math o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), yn hytrach nag anhwylder bwyta. Mae hyn oherwydd bod gan rywun sy’n byw ag orthorecsia gymhelliad i fwyta’n iach oherwydd ffordd llym o feddwl am ac ymddwyn o amgylch bwyd, ac nid yw wedi’i ysgogi gan hunan-ddelwedd.

Gall Orthorecsia olygu torri allan grwpiau bwyd cyfan o’r deiet er mwyn dileu unrhyw fwydydd nad ydynt yn ‘bur’, sy’n gwneud y ddelfryd o fwyta’n iach yn segur.


Symptomau Orthorecsia

  • Purdeb yn hytrach na phleser. Gall eich deiet ddod yn wael pan fyddwch yn poeni am ba mor ‘pur’ yw eich bwyd dros y pleser o’i fwyta
  • Obsesiwn â phryderon iechyd. Gall diddordeb sylweddol yn y cysylltiadau rhwng bwyd a chyflyrau iechyd, a newid eich arferion bwyta’n dramatig o’r herwydd fod yn achos gofidio
  • Meddyliau afresymol. Yn ogystal â ffocysu ar bryderon iechyd posibl, gall meddyliau obsesiynol am lendid wrth baratoi bwyd fod yn arwydd
  • Hunan-niweidio. Gan fod pobl sydd ag Orthorecsia’n mynd ar ddeiet sy’n anodd i’w ddilyn, gallent niweidio eu hunain pe baent yn llithro oddi arno.
  • Hunan-barch isel. Gall pobl ag Orthorecsia fod â diffyg hyder a beio’u hunain am fod ag awydd bwyd neu am lithro oddi ar eu deiet.
  • Unigedd. Os yw’r obsesiwn â’r hyn rydych yn ei fwyta’n dod cyn eich bywyd cymdeithasol neu bywyd dyddiol
  • Ymarfer corff eithafol. Yn ogystal â rheoli pa fwydydd i’w bwyta, gall y rheiny sy’n dioddef ag Orthorecsia fod ag obsesiwn dros ymarfer corff er mwyn eu cynorthwyo i gael y corff iach, perffaith.
  • Pwysau isel. Mae pobl sydd ag Orthorecsia’n aml yn colli pwysau’n eithafol.

Cymorth ag Orthorecsia

Nid oes ymchwil digonol wedi ei wneud hyd yma i sefydlu’r driniaeth orau ar gyfer Orthorecsia. Fodd bynnag, gellid trefnu triniaethau siarad megis cwnsela a Therapi Gwybyddyol Ymddygiadol (CBT) drwy eich meddyg teulu. Ni annogir siarad â deietegydd a newid eich deiet fel y prif ffocws, oherwydd dylid tynnu’r pwyslais oddi ar fwyd er mwyn lleddfu’r obsesiwn. Argymhellir bod pobl sydd ag Orthorecsia’n cael eu hail-gyflwyno’n araf i wahanol grwpiau bwyd er mwyn dychwelyd at ddeiet normal.

Gall fod yn anodd cyfaddef fod gennych chi broblem a gofyn am gymorth, ond dyma’r peth dewraf y gallech chi wneud.

Gwybodaeth o themix.org


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu

Trichotillomania

TrichotillomaniaCyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt yw trichotillomania. Efallai byddant yn tynnu’r gwallt ar eu pen neu mewn llefydd eraill, megis eu haeliau neu blew eu hamrannau.

Anhwylder cymhelliad-rheolaeth yw trichotillomania, cyflwr seicolegol lle nad yw’r person yn gallu atal eu hunain rhag gwneud rhywbeth penodol. Byddant yn profi awydd cryf i dynnu eu gwallt a thensiwn cynyddol tan eu bod yn gwneud hynny. Ar ôl tynnu’r gwallt, byddant yn profi ymdeimlad o ryddhad. Mae tynnu gwallt o’r pen yn gadael rhannau moel.

Gall trichotillomania achosi teimladau negyddol, megis euogrwydd. Gall y person hefyd deimlo cywilydd am dynnu eu gwallt, ac efallai byddant yn ceisio ei wadu neu ei guddio. Ambell waith gall trichotillomania wneud i’r person deimlo’n salw a gall hyn arwain at hunan-barch isel.


Beth sy’n achosi trichotillomania?

Nid yw’r hyn sy’n achosi trichotillomania yn wyddys, ond mae nifer o theorïau’n bodoli. Mae rhai arbenigwyr yn credu bod tynnu gwallt yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf rydych yn tynnu’ch gwallt, po fwyaf y byddwch am barhau i’w wneud. Gall trichotillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Mae theorïau seicolegol ac ymddygiadol yn awgrymu y gall tynnu gwallt fod yn ffordd o ryddhau straen neu bryder. Gan fod trichotillomania’n ymwneud ag ymddygiad cymhellol, mae rhai arbenigwyr yn credu ei fod yn berthyn i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Mewn rhai achosion, gall trichotillomania fod yn ffordd o hunan-niweidio, lle mae’r person yn anafu eu hunain yn fwriadol fel ffordd o gael rhyddhad dros dro rhag anawsterau emosiynol.


Gwneud diagnosis o trichotillomania

Ewch i’ch meddyg teulu os ydych chi’n tynnu eich gwallt, neu os ydych yn sylwi bod eich plentyn yn gwneud hynny.
Efallai bydd eich meddyg teulu’n defnyddio rhai o’r meini prawf isod i wneud diagnosis:

  • Rydych yn tynnu’ch gwallt dro ar ôl tro
  • Rydych yn teimlo tensiwn cynyddol cyn ichi dynnu’ch gwallt
  • Rydych yn teimlo rhyddhad neu bleser pan rydych wedi tynnu’ch gwallt
  • Nid oes unrhyw gyflwr meddygol sy’n gwneud i chi dynnu’ch gwallt, megis cyflwr ar y croen
  • Mae tynnu’ch gwallt yn achosi anawsterau i chi neu’n effeithio ar eich bywyd dyddiol – er enghraifft, eich perthnasau neu’r gwaith.

Efallai bydd person yn derbyn diagnosis o trichotillomania hyd yn oed oes nad ydynt yn bodloni’r holl meini prawf uchod.

Gwybodaeth o nhs.uk


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu

Dermatillomania

DermotillomaniaMae dermatillomania yn gyflwr sy’n cymell person i bigo a chrafu ei groen nes iddo greu briwiau gweladwy. Mae’n anhwylder rheoli cymhelliad (impulse-control disorder); cyflwr seicolegol lle nad yw person yn gallu atal ei hun rhag cyflawni’r weithred.

Bydd person â dermatillomania yn pigo, crafu neu wasgu croen sydd fel arall yn iach. Bydd yn gwneud hyn yn aml ac i’r eithaf. Fel arfer, mae pobl sy’n dioddef â’r cyflwr yn pigo’r croen ar eu wynebau a’u gwefusau, ond fe all fod yn unrhyw ran o’r corff, megis y dwylo, croen y pen a’r breichiau. Caiff y cyflwr hwn ei ystyried yn ffurf ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).


Emosiynau

Bydd person â’r cyflwr hwn yn profi emosiynau cryf fel rhan o’i orfodaeth. Mae’n arferol iawn i deimlo ysfa gref i bigo’r croen, a theimladau o densiwn cynyddol hyd nes cyflawnir y weithred. Ar ôl pigo’r croen, daw teimlad o ryddhad. Gall dermatillomania hefyd achosi teimladau negyddol megis euogrwydd, cywilydd ac embaras. Yn aml bydd pobl sy’n dioddef yn ceisio gwadu’r broblem neu’n ceisio cuddio’r croen â cholur.


Beth sy’n achosi dermatillomania?

Nid ydym yn sicr beth yn union sy’n achosi dermatillomania ond mae sawl theori. Mae rhai arbenigwyr o’r farn bod y cyflwr yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf y mae’r person yn pigo ei groen, y mwyaf y mae’r awydd i barhau yn cynyddu. Gall dermatillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Yn ôl theoriau seicolegol ac ymddygiadol, gall pigo’r croen fod yn ffordd o liniaru straen neu gorbryder. Mewn rhai achosion, gall dermatillomania hefyd fod yn ffurf ar hunan-niweidio, pan fydd person yn brifo ei hun yn fwriadol er mwyn teimlo rhyddhad dros dro rhag eu gofid emosiynol.

Cyflwr tebyg arall yw trichotillomania – pan fydd person yn teimlo’r angen i dynnu ei wallt o’r gwraidd. Nid yw’n anghyffredin i berson ddioddef ag OCD ac i bigo ei groen yn ogystal â thynnu ei wallt yn orfodol.


Beth ddylwn i ei wneud?

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych yn pigo eich croen drwy orfodaeth neu’n sylwi bod eich plentyn yn gwneud hynny. Bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at seicolegydd neu seiciatrydd ar gyfer ryw fath o therapi siarad.
Os oes niwed difrifol i’r croen, efallai y bydd angen i chi gael eich cyfeirio at ddermatolegydd (arbenigwr ar y croen) yn gyntaf.


Cyngor ar sut i roi’r gorau iddi

  • Cadwch eich dwylo’n brysur drwy gyflawni tasg arall nes i’r awydd i bigo basio, neu gwisgwch fenig.
  • Pan fyddwch yn teimlo’r awydd i bigo, gofalwch am eich croen yn lle – er enghraifft, rhowch leithydd ar eich croen.
  • Anelwch at beidio ag ildio i’r awydd yn hirach ac yn hirach bob tro os nad oes modd i chi ei wrthsefyll yn gyfan gwbl.
  • Cadwch y croen yn lân er mwyn atal heintiau.
  • Cadwch yn brysur.
  • Gwaredwch ag unrhyw blicwyr blew (eich ‘tweezers’), pinnau ac offer arall y byddech yn debygol o’u defnyddio.
  • Ceisiwch wasgu pêl feddal neu damaid o blu tack yn hytrach.

Gwybodaeth o nhs.uk


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu