Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Mae o’n dibynnu ble ydych chi yn y cylch anhwylder! Gorfeddwl am bethau negyddol yw fy mhroblem i, ond dwi’n gweld fod y meddyliau cas yn pylu ar ôl i mi gerdded am ryw hanner awr.

Dwi’n ceisio osgoi gymaint o gyfrifoldebau bywyd a gallaf oherwydd mae ‘stress’ yn gwneud fy nghyflwr i’n waeth. Y broblem wedyn ydy fod hyn yn eich rhoi chi mewn lle bregus o ennill eich tamaid oherwydd cael ein talu am y maint o stress allwn ni ddioddef ydym ni yn y bôn. Y mwyaf o stress y mwyaf y cyflog! Mi allwch chi fod y person mwyaf galluog, ond unwaith fod problemau iechyd meddwl yn cydio mi allith hwn effeithio ar eich gallu i gael a chynnal gwaith. Ond dyle fe ddim bod fel hyn.

Dim offerynnau mecanyddol ydym ni! Ry’n ni’n eneidiau byw ac mi ddylwn ni gael ein trin gan gymdeithas felly! Mae 12 mlynedd wedi pasio ers fy niagnosis o Anhwylder dau begwn, dwi wedi gwneud gwaith gwirfoddol yn yr amser yna ond mae fy ngradd, fy ôl-radd a fy nghymwysterau dysgu yn golygu ddim byd i gyflogwyr sydd eisiau cael gwarant fod eu gweithiwr newydd yn mynd i gydymffurfio gyda beth bynnag wnawn nhw ofyn iddyn nhw wneud.

Fy nymuniad i fasa ffeindio gwaith rhan amser, sydd ddim yn rhy stressful ac sydd yn talu cyflog dechau ac sydd yn ugain munud o gartref.

Cofiwch #20isplenty #20ynddigon

David Williams

Rhannu

Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar

Pitman
Rory Pitman. Llun o wefan walesonline.co.uk

Gall chwaraeon proffesiynol fod yn greulon ac yn anfaddeugar. Un diwrnod rydych chi gyda’r gorau, ond gall ddod i ben yn fuan.

Yn anffodus, pan ddaw i rygbi, mae anafiadau yn rhan annatod o’r gêm ac os yw’r chwaraewr sy’n cymryd eich lle yn chwarae’n dda, gallwch fynd yn angof yn fuan iawn. Mae cyn chwaraewr y Sgarlets, Rory Pitman, yn gwybod yn union sut mae hynny’n teimlo.

Fe wnaeth enw iddo’i hun yn ystod tymor 2014/15, gyda pherfformiadau trawiadol. Aeth ymlaen i chwarae 26 o weithiau i’r Scarlets y tymor hwnnw ac roedd pethau’n edrych yn addawol iawn cyn iddo gael ei anafu.

Y tymor nesaf, prin wnaeth ef chwarae i’r Scarlets gan i anafiadau i gyhyrau yn ei fraich a’i frest ei gadw oddi ar y cae am gyfnod hir cyn iddo gael ei ryddhau gan y rhanbarth. Fe wnaeth y newyddion daro’r chwaraewr 27-mlwydd-oed yn galetach nag y gallai fod wedi dychmygu.

“Roedd popeth yn mynd yn wych gyda’r Scarlets. Roeddwn yn ennill gwobrau am seren y gêm ac yn chwarae’r gemau mwyaf – ond fe ddigwyddodd un peth ar ôl y llall ar ôl hynny. Fe es i weld seicolegydd ac yn lwcus roedd gen i hefyd rwydwaith cymorth gwych gyda ffrindiau a theulu.

“Nid oedd yn hawdd cyfaddef fy mod yn cael trafferth ymdopi, ond mae’n bwysig bod pobl yn deall nad yw chwaraewyr rygbi yn ‘nwyddau’ i’r clwb eu defnyddio a’u gwaredu fel y dymunant.

“Nid yw materion iechyd meddwl yn hawdd eu trafod mewn chwaraeon corfforol fel rygbi. Mae angen iddo ddod yn fwy derbyniol i bobl siarad amdano ac y mwyaf o bobl sy’n deall hyn, bydd y sefyllfa yn well i bawb.”

Darllen mwy

Rhannu

Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith

Meri HuwsBob hyn a hyn mae rhywun yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n creu argraff, sy’n gymysgedd o ysgytwad ac ysbrydoliaeth, ac sy’n ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i weithredu er mwyn gwella pethau.

Profiad o’r fath ges i un prynhawn Gwener gwlyb yn ddiweddar. Y lleoliad oedd y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r pwnc dan sylw oedd pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.

Criw bychan ohonom oedd yno – â phawb, rwy’n tybio, yn rhannu’r un farn ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Er hynny, roedd clywed y siaradwyr yn dweud eu stori yn brofiad dirdynnol. Gadawodd gadernid a dewrder y bobl hyn, sawl un ohonyn nhw’n bobl ifanc, argraff ddofn arna i, a bydd eu geiriau yn aros gyda fi.

Roedd y cyflyrau a’r salwch yn amrywio, ond roedd y profiadau’n gyson. Methu â chael gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Nigel Owens: Bulimia a fi : BBC Cymru Fyw

nigelowens2
Nigel Owens – Llun o wefan BBC Cymru Fyw

Mae e’n un o ddyfarnwyr gorau’r byd ond mae Nigel Owens wedi rhoi ei iechyd mewn perygl i gyrraedd uchelfannau’r gamp.

Mae’r gŵr o Fynydd Cerrig wedi cydnabod bod ganddo broblemau gyda bulimia pan oedd yn ddyn ifanc. Ond am y tro cyntaf mae’n datgelu bod ei frwydr gyda’r anhwylder bwyta yn parhau wrth iddo geisio cyrraedd y safonau ffitrwydd angenrheidiol fel dyfarnwr rygbi proffesiynol.

Wrth weithio ar raglen Nigel Owens: Bulimia and Me, BBC One Wales (23 Gorffennaf, 20:30) daeth i ddeall faint y mae pobl eraill yn ei ddiodde’ a sylweddoli bod angen help meddygol arno ef ei hun.

Darllenwch mwy:

 

Rhannu

Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig!

Jack-PleasantsDwi’n ddig, dim fel y dug Caeredin wrth gwrs ond mae o yn ddyn digon dig ei hunan. Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma.

Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?

Yn America mae o yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn y deyrnas ranedig gawn ni wythnos, ag yn ôl y sôn fydd S4C yn dangos rhaglenni am y pwnc. Ni fyddaf yn gweld yr un oherwydd dwi’n beio’r peiriant propaganda yma am achosi gymaint o anfodlonrwydd a dicter yn y byd. Y gobaith nol yn 1982 oedd fasa mwy o Gymraeg ar y cyfryngau yn annog mwy o bobol i siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ond yn anffodus efelychu’r diwylliant Eingl Americanaidd arwynebol mae o wedi gwneud.

Oherwydd dwi ddim yn defnyddio meddyginiaeth i fy nghyflwr iechyd meddwl bellach mae fy nheulu annwyl wedi bod yn dyst i ‘angry outbursts’. Dwi fel matchen chi! Chwythu fyny ar y pethau mwyaf dibwys ond dwi yn gweld o’n llesol. Dim iddyn nhw wrth gwrs, ond mae o allan o fy system yn syth yn lle mwydro fy mhen fel yn yr hen ddyddiau ac wedyn cymryd cyffuriau i dawelu beth sydd yn hollol naturiol. Dicter! Anger!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mae fy salwch meddwl yn mynnu dod ar wyliau gyda mi

teithio-gyda-salwch-meddwl1Gall teithio fod yn straen ar yr amseroedd gorau – ond i’r rhai ag anawsterau iechyd meddwl, gall fod yn llethol.

Mae’r artist Loren Conner yn byw gyda gorbryder ac wedi gweithio gyda teithwyr i ddarlunio sut maent yn teimlo pan fyddant ar fin cychwyn ar daith.

Bu Lauren Juliff yn y penawdau ar ôl iddi werthu ei holl eiddo a phrynu tocyn un ffordd i deithio’r byd. Mae hi wedi treulio pum mlynedd ar y ffordd ac wedi ymweld â 60 o wledydd, ond mae hi hefyd yn byw gyda gorbryder.

Digwyddodd ei phwl o banig cyntaf pan oedd hi’n 16 oed ac mae hi’n dweud ei fod yn effeithio arni gymaint ar adegau nes iddi golli ei swydd a’i chariad, ond mae hi’n raddol wedi cryfhau cyn penderfynu mynd ar daith ar ei phen ei hun.

Darllen rhagor: BBC (Saesneg)

Rhannu

Ian Puleston-Davies yn siarad am ei anhwylder gorfodaeth obsesiynol

ianpuleston-daviespierMae obsesiwn am staen ar ddarn o bapur neu ofn y bydd yn niweidio ei hun drwy eistedd i lawr yn rhan o fywyd bob dydd i’r cyn-actor ar Coronation Street, Ian Puleston-Davies, sydd â Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol. Dyma ei stori.

Weithiau mae mwy nag un ateb i gwestiwn syml. I mi, y cwestiwn yw “Felly pryd wnaethoch chi ddarganfod fod gennych OCD?”

Yr ateb amlwg yw i mi gael diagnosis pan oeddwn yn 35 oed pan es i gael rhywfaint o help gyda chyflwr a oedd wedi fy analluogi cymaint i’r pwynt yr oeddwn yn ei chael yn anodd codi allan o’r gwely yn y bore, rhag ofn i mi dorri fy ngwddf.

Ond yr ateb go iawn yw, ‘roeddwn yn gwybod fy mod yn wahanol mor gynnar â saith mlwydd oed. Ac mae un cof penodol sydd wedi ei stampio yn fy meddwl.

Cefais fy magu yn y gogledd yn nhref y Fflint ac mae gennyf atgofion hapus fel bachgen ysgol yn Ysgol Gwynedd. Ond dyma pryd hefyd lle dechreuais i ddangos arwyddion o OCD.

Darllen rhagor : BBC Wales

Rhannu

Lansio ymgyrch i fynd i’r afael ag unigrwydd : Golwg360

unigrwyddMae comisiwn rhyngbleidiol wedi lansio ymgyrch heddiw i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Bydd Comisiwn Unigrwydd Jo Cox yn ymchwilio i effeithiau niweidiol unigrwydd ar bobol yn y Deyrnas Unedig a sut i ddatrys y problemau.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu yn enw’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox, a oedd wedi dechrau’r broses o greu comisiwn o’r fath cyn iddi gael ei llofruddio yn ei hetholaeth ym mis Mehefin y llynedd.

Mwy: golwg360.cymru
Mwy: bbc.co.uk (Saesneg)

Rhannu

Ymdrech

llyfrau-beniwaered-swnPan oeddwn i tua deuddeg fe wnes i fynd yn unswydd at Mam a dweud wrthi nad oeddwn i’n hoffi darllen ragor ac na fyddwn i’n darllen mwy. Ro’n i â’n nhrwyn mewn llyfr y bore wedyn.

Pan oeddwn i’n adolygu at gyfer arholiadau TGAU ces i brynu llyfr ar yr amod na fyddwn i’n ei ddarllen e nes ar ôl yr arholiadau. Cymaint o rebel a phleser deimles i yn darllen y llyfr ‘ar y slei’ yn lle adolygu.

Heblaw am ambell gyfnod prysur alla i ddim cofio peidio darllen am fwy na dau neu dri dwrnod. Doeddwn i byth yn dda iawn am ddarllen un llyfr ar y tro chwaith. Fel rheol bydda i’n mynnu gorffen y mwya’ diflas o lyfrau – y cyffro o benderfynu ar y nesaf a dechrau arno yn fy nghadw i ddarllen.

Ond ers rhai misoedd dyw’r syniad o ddarllen ddim yn apelio o gwbl, a’r syniad o ddarllen yn ymdrech. Er i fi agor ambell lyfr, allaf i ddim yn fy myw darllen mwy na phennod neu ddau ar y tro, a hynny yn ysbeidiol.

Parhau i ddarllen

Rhannu